Jane Ashman Logo

Grooming – 6. Adlewyrchu ar fod yn agored

Gall unrhyw un, yn oedolion a phlant, gael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Oherwydd newid mewn amgylchiadau, gall unigolyn ddod yn fwy agored i gael ei ddylanwadu.  

Dyma dabl gydag ychydig o bwyntiau y byddwch wedi meddwl amdanynt o bosibl.

Wedi eu hanafu Cael eu bwlio Anniogel ac Ansicr  Wedi eu bychanu Ddim yn ymwybodol o’u gwerth 
Esgeuluso Cam-drin Wedi torri Dim cyfeiriad  Cymhleth hunaniaeth  
Symud yn wastadol Anghenion Dysgu Ychwanegol Plant mewn gofal Chwilio am gariad  Parch 
Trawma Camddefnydd sylweddau  Hudoliaeth a normaleiddio  Mynd ar ôl arian  Grym 
Unigrwydd  Problemau ariannol  Salwch Iechyd Meddwl  Eisiau perthyn  Teimlo’n israddol  
Modelau rôl negyddol Ddim yn teimlo’u bod yn cael eu derbyn gan gyfoedion Eisiau mynd i’r lefel nesaf ar gêm ANGEN EISIAU 

Fe sylweddolwch nad yw’r term ‘agored i niwed’ yn ymddangos, ond eto mae’n derm rwy’n ei glywed yn aml ar gyrsiau. Gall y term ‘agored i niwed’ fod yn derm sy’n beio’r dioddefwr, h.y. digwyddodd iddynt hwy am eu bod yn agored i niwed. Beth mae hefyd yn ei wneud yw i’n gwneud yn unllygeidiog, a gwneud i ni feddwl bod meithrin perthynas amhriodol a chamdriniaeth ond yn digwydd i fath arbennig o berson. Fel y crybwyllwyd, gall meithrin perthynas amhriodol ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywyd. 

Mae’r Swyddfa Gartref, yn eu harweiniad ‘Prevent’ wedi cyhoeddi’r canlynol i egluro’r gwahaniaeth: 

Agored i ddylanwadau ac agored i niwed 

Ni fydd pob person sy’n agored i’w radicaleiddio yn ‘berson sy’n agored i niwed’.  

Gall person fod yn agored i niwed os ydynt angen gofal, cefnogaeth neu amddiffyn arbennig oherwydd oedran, anabledd, y perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.  

Mae amgylchiadau, anghenion a ffactorau sylfaenol eraill a all wneud person yn agored i’w radicaleiddio sydd ddim yn gyfystyr â bod yn ‘agored i niwed’.  

Template File: single.php