Grooming – 4. Diffiniadau Meithrin Perthynas Amhriodol
“Meithrin perthynas amhriodol yw pan mae rhywun yn adeiladu perthynas, ymddiriedaeth a chysylltiad emosiynol gyda phlentyn neu berson ifanc er mwyn iddynt allu eu defnyddio, eu hecsbloetio a’u cam-drin.” NSPCC
“Meithrin perthynas amhriodol yw pan mae person yn adeiladu perthynas gyda phlentyn, person ifanc neu oedolyn sydd mewn risg er mwyn iddynt allu eu cam-drin a’u defnyddio i wneud pethau.” Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r ail ddiffiniad yn nodi bod yr oedolyn yn wynebu risg, ond gall hyn ddigwydd i unrhyw unigolyn ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Mae meithrin perthynas amhriodol yn ymwneud â phŵer a rheolaeth. Yn ystod y broses o feithrin perthynas amhriodol, bydd y troseddwr yn ceisio torri lawr amddiffynfeydd yr unigolyn, gan wneud iddynt ymddiried ynddynt fwy nag yn eu perthynasau presennol neu gyfeillgarwch presennol er mwyn iddynt allu cymryd rheolaeth.