Jane Ashman Logo

Grooming – 16. Camau Nesaf

Next Steps in School

Rhybudd Cynnwys: Mae’r podlediad a ganlyn yn cynnwys deunydd gofidus ar gam-drin plant yn rhywiol. Os gwelwch yn dda, sicrhewch eich bod yn barod yn emosiynol i wrando ac mai y chi yw’r unig berson sy’n gallu ei glywed.

Mae’r podlediad hwn o’r Internet Watch Foundation (IWF): “If you’re watching, you’re an offender”. Gallwch gael mynediad iddo yn y fan yma: Pixels from a Crime Scene – A Podcast

Eglurhad Pwysig o’r Derminoleg:

Yn y Deyrnas Unedig, nid ydym yn defnyddio’r term ‘pornograffi plant’ fel y defnyddir yn y podlediad. Rydym yn defnyddio ‘delweddau rhywiol eglur o blant’ sef cam-drin plant yn rhywiol.


Mae Adrannau 128 ac 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd am oedolyn sy’n wynebu risg a phlentyn sy’n wynebu risg. Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg mae hyn yn ddyletswydd gyfreithiol sy’n berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant. O fewn ysgolion, byddai hyn yn cynnwys cofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Dynodedig Diogelu (PDD). Mae’n hynod bwysig ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, gan y bydd y PDD wedyn yn gallu adeiladu darlun mwy llawn o’r sefyllfa. 

Crynodeb o gwybodaeth ar ‘catfishing’

Llinellau Cymorth 
  • Childline – Cymorth 24 awr y dydd ar gyfer pobl ifanc, dros y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuo 0800 1111 
  • The Mix – gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed 0808 808 4994 
  • Meic – 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos 080880 23456 gydag opsiynau sgwrsio ar-lein ar gael hefyd. Testun 84001  
  • Galop – ar gyfer cefnogi pobl LGBT+ 0800 999 5428 help@galop.org.uk 
  • Samaritans – ar gael 24/7 galwch am ddim ar 116 123, e-bost jo@samaritans.org neu sgwrsio ar-lein 
  • NSPCC – 0808 800 5000  
  • NAPAC National Association for People Abused in Childhood 0808 801 0331 
    • Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm 
    • Dydd Gwener: 10am – 6pm 
    • Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau 
Adnoddau 

I ddarllen ymhellach i wella eich dealltwriaeth o’r pwnc hwn ewch i’r ardan adnoddau o’n gwefan Resource Library Update – Jane Ashman Safeguarding. Mae mwy o wybodaeth ar y gwefannau hyn hefyd: 

Grooming: recognising the signs | NSPCC Learning 

Grooming – Victim Support 

Feedback

Feedback is important to us, if you have the time please fill out the form  below. We use your feedback to make further improvements to our course content to provide you a better service.

https://janeashmansafeguarding.fillout.com/membership-beta

Template File: single.php