Jane Ashman Logo

Grooming – 14. Finkelhor Model

Dylech fod yn gyfarwydd erbyn hyn gyda’r tactegau mae camdriniwr yn eu defnyddio i feithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn neu oedolyn. Yr ardal nad ydym wedi edrych arni eto yw yr hyn sy’n cymell camdriniwr i gam-drin yn rhywiol. I rai, mae’n ymwneud â phŵer a rheolaeth dros eraill. Mewn ecsbloetiaeth troseddol, gallai gynnwys gorfodi eraill i gyflawni gweithrediadau troseddol. Gwelir y rhai hynny a ddefnyddir mewn ecsbloetiaeth troseddol o blant fel nwydd i gyrraedd nod terfynol y camdriniwr. Maent yn defnyddio termau megis ‘Bics’. Pin ysgrifennu dafladwy yw Bic, ac mae hyn yn adlewyrchu sut edrychir ar y plant hyn: fel nwyddau tafladwy.

Ym 1986, datblygodd Dr David Finkelhor fodel sy’n adnabod pedwar rhagdybiaeth i gam-drin plant yn rhywiol. Mae pob un o’r camau’n rhwystr sydd yn rhaid ei oresgyn er mwyn i gamdriniaeth ddigwydd.

Cam 1: Cymhelliant / Meddwl

Nid yw’r meddyliau hyn yn codi’n ddigymell. Fel arfer bydd camdrinwyr wedi ffantasïo am yr hyn yr hoffent ei wneud gyda phlentyn cyn iddynt eu cyfarfod. Mae peth gwaith ymchwil yn dangos bod camdrinwyr yn symud ymlaen gyda’r math o bornograffi maent yn ei wylio ac nad ydynt bellach yn cael boddhad rhywiol o oedolion. Efallai y byddant yn dechrau gyda phornograffi pobl sy’n gwisgo i edrych yn iau (e.e. mewn gwisg ysgol).

Cam 2: Atalyddion Mewnol

Yn y cam yma, mae’n rhaid i gamdrinwyr oresgyn eu meddyliau bod yr hyn maent yn cael eu cymell i’w wneud yn ddrwg. Mae ganddynt fath o anghysondeb gwybyddol ble mae ganddynt ddau gred sy’n gwrthdaro. Un gred yw eu bod yn gweld y plentyn yn ddeniadol ac eisiau cael rhyw gyda nhw; y gred sy’n gwrthdaro yw bod hwn/hon yn blentyn a bod gweithrediadau o’r fath yn ddrwg. I leddfu anesmwythder yr anghysondeb gwybyddol, maent yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau yn cynnwys:

  • Dim ond chwilio am wybodaeth sy’n cadarnhau y gred bresennol: Golygai hyn chwilio am unigolion o’r un anian sy’n atgyfnerthu’r gred bod atyniad rhywiol tuag at blant yn normal. Efallai y byddant yn enwi esiamplau o wledydd ble mae plant yn priodi pan yn ifanc.
  • Newid y gred fel eu bod yn alinio gyda’u gweithredu: I rai pobl, golygai hyn nad ydynt yn gweithredu ar eu meddyliau.
  • Cyfiawnhau’r ymddygiad: Maent yn rhesymoli eu gweithrediadau i wneud iddynt ymddangos yn fwy derbyniol. Er enghraifft: “Dylai pob plentyn ddysgu am ryw; Rwy’n eu helpu i ddysgu amdano” neu “Dim ond edrych ar y llun ydw i; Dwi ddim yn brifo neb.”
  • Symud y bai oddi arnynt eu hunain: Efallai y bydd camdrinwyr yn beio’r plentyn am fod yn ddeniadol, yn beio eraill am beidio boddhau eu hanghenion rhywiol, neu feio eu gweithrediadau ar salwch meddwl, diod, neu gyffuriau.
Cam 3: Atalyddion allanol

Mae’r cam yma’n ymwneud â chreu’r cyfle. Gallai hyn gynnwys dewis swydd sy’n rhoi mynediad at blant (gweler y modiwl Recriwtio Mwy Diogel)  neu greu persona mae pobl yn ymddiried ynddynt, gan gael mynediad at blant a’u teuluoedd (e.e. achos hyfforddwr pêl-droed Paul Stewart oedd wedi meithrin perthynas amhriodol gyda’r teulu cyfan). Gallai gynnwys dod yn berson mae eraill yn ei ofni ac yn teimlo na allent ei herio. Mae llithriad diwylliannol yn faes ble mae staff yn dechrau croesi’r llinell ac yn gweld os yw eraill yn eu herio. Os na chânt eu herio, mae’r ymddygiad yn parhau (gweler y modiwl Honiadau yn Erbyn Staff).

Cam 4: Goresgyn Gwrthwynebiad y Dioddefwr

Mae’r cam yma’n cynnwys y saith cam mewn meithrin perthynas amhriodol a drafodwyd yn gynharach yn y modiwl hwn. Yn y cam yma, mae tri deilliant posibl i’r plentyn:

  • Efallai y bydd y plentyn yn gwrthwynebu  ond yn cael eu goresgyn drwy orfodaeth
  • Efallai y bydd y plentyn yn gwrthwynebu yn agored (yn dweud na, yn rhedeg i ffwrdd, yn bygwth dweud wrth rhywun), sy’n gyrru neges cryf i’r camdriniwr i beidio trio am eu bod yn ofni cael eu canfod neu eu datguddio
  • Efallai y bydd y plentyn yn gwrthwynebu ond yn dal i gael eu cam-drin drwy rym neu drais

Template File: single.php