Grooming – 13. Twyll Rhamant
Twyll rhamant (‘catfishing’)
“Mae twyll rhamant yn digwydd pan rydych chi’n meddwl eich bod wedi cyfarfod y partner perffaith ar-lein, ond maent yn defnyddio proffil ffug i ffurfio perthynas gyda chi.” Crimestoppers
Defnyddir meithrin perthynas amhriodol i ennill ymddiriedaeth yr unigolyn gyda’r nod terfynol o gael eu harian neu wybodaeth bersonol. Bydd yr unigolyn yn credu eu bod mewn perthynas gariadus a gofalgar. Gall hyn ddigwydd dros nifer o wythnosau neu fisoedd. Gall gynnwys cyfarfod yn bersonol neu gall yr holl beth ddigwydd ar-lein. Byddant wedi mynd drwy’r 7 cam o feithrin perthynas amhriodol, fel y soniwyd yn gynharach.
Isod mae peth gwybodaeth gan Crimestoppers UK. Sut i adnabod yr arwyddion:
- Os ydych chi wedi ffurfio perthynas gyda rhywun ar-lein ac maen nhw’n datgan eu cariad amdanoch chi yn fuan. Mae llawer o dwyllwyr yn honni eu bod dramor am eu bod yn gweithio i’r lluoedd arfog neu i’r proffesiwn meddygol.
- Maent yn gwneud esgusodion ynghylch pam nad ydynt yn gallu sgwrsio ar fideo neu gyfarfod yn bersonol, ac yn ceisio symud y sgyrsiau oddi ar y llwyfan yr ydych wedi cyfarfod arno.
- Pan maent yn gofyn am gymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng ar fyrder, a bydd y rheswm yn rhywbeth sy’n eich cyffwrdd yn eich calon. Efallai y byddant yn troi’n amddiffynnol os byddwch chi’n gwrthod helpu.
- Mae eu lluniau yn rhy berffaith – efallai eu bod wedi eu dwyn gan actor neu fodel. Gallai chwilio gyda Reverse image search ddod o hyd i luniau sydd wedi eu cymryd o rhywle arall.
- Maent yn dweud wrthych i gadw eich perthynas yn gyfrinachol ac i beidio trafod unrhyw beth gyda’ch ffrindiau a theulu.
Sut i ddiogelu eich hun
- STOPIO: Cymerwch foment i stopio ac i feddwl cyn rhoi arian neu wybodaeth.
- HERIO: Ai’r person hwn yw’r person mae’n ei ddweud mewn gwirionedd? A allai fod yn ffug? Mae’n iawn i wrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau am eich manylion ariannol neu bersonol.
- AMDDIFFYN: Cysylltwch â’ch banc yn syth os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo gan sgam ac adrodd arno i Action Fraud. Os ydych chi yn Yr Alban, gallwch adrodd arno i Police Scotland trwy alw 101.
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn ddioddefwr sgam, peidiwch â theimlo cywilydd neu embaras – nid ydych ar eich pen eich hun. Cysylltwch â’ch banc yn syth ac adrodd arno i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy actionfraud.police.uk. Os ydych chi yn Yr Alban adroddwch arno i Police Scotland yn uniongyrchol trwy alw 101.
Mae’r newidiadau mewn technoleg yn golygu bod y rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol yn gallu adnabod a thargedu dioddefwyr mewn ffyrdd newydd yn cynnwys ‘sextortion’ (gweler y modiwl ‘sextortion’).