Jane Ashman Logo

Grooming – 12. Cyngor ar gyfer trefnu dêt ar-lein

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i oedolyn sy’n edrych am gariadon ar-lein, oherwydd y risg o feithrin perthynas amhriodol?  

Mae’r National Crime Agency (NCA) yn cynnig y cyngor a ganlyn ar gyfer rhai sy’n defnyddio gwefannau i ddod o hyd i gariadon ar-lein: 

Chwilio am gariad ar-lein? Byddwch yn ofalus pan yn cyfarfod wyneb yn wyneb. 

  1. Ei gynllunio. Ei ddweud. Ei wneud. 
    Eich ‘date’ chi ydi hwn. Cytunwch ar beth mae’r ddau ohonoch eisiau ohono cyn cyfarfod. Peidiwch â theimlo pwysau i gyfarfod cyn eich bod yn barod, neu am yn hirach nac yr ydych yn temlo’n gyfforddus – mae ‘date’ byr yn iawn. 
  2. Cyfarfod yn gyhoeddus.  Aros yn gyhoeddus. 
    Y cynllun mwyaf diogel yw i gyfarfod yn rhywle cyhoeddus ac i aros yn rhywle cyhoeddus. Ewch yno ac yn ôl eich hun a peidiwch a theimlo bod pwysau i fynd adref gyda’ch ‘date’. Os ydych chi’n teimlo eich bod yn barod i symud i amgylchedd preifat, gwnewch yn siwr bod eich disgwyliadau yr un fath a rhai y person arall. 
  3. Dewch i adnabod y person, nid y proffil. 
    Nid yw’r ffordd mae pobl yn rhyngweithio ar-lein yr un fath ag ydyw wyneb yn wyneb bob amser. Peidiwch â digio os yw eich ‘date’ yn fwy gwyliadwrus pan yn cyfarfod yn bersonol neu nad yw pethau yn datblygu mor sydyn wyneb yn wyneb. 
  4. Ddim yn mynd yn dda? Gwnewch eich hesgusodion a gadael. 
    Peidiwch â theimlo’n ddrwg am fyrhau’r ‘date’ os nad ydych yn awyddus. Does arnoch chi ddim byd i’r person, dim ots am pa hyd rydych wedi bod yn sgwrsio neu beth sy’n cael ei gynnig. 
  5. Os ydych chi’n cael eich treisio neu’n dioddef ymosodiad rhywiol ar eich ‘date’, mae cymorth ar gael. Dim ots beth yw’r amgylchiadau, mae gweithgaredd rhywiol yn erbyn eich ewyllys yn drosedd. Mae’r heddlu ac elusennau yma i’ch cefnogi. 

          Yn y rhan fwyaf o leoliadau mae ganddynt ymgyrch “Ask for Angela” sy’n ymgyrch sy’n helpu unrhyw un sy’n teimlo’n anniogel ar noson allan i gael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Rydych yn gofyn am Angela yn y bar neu doiled. Bydd y staff wedyn yn dewis y dull mwyaf priodol o weithredu, a allai fod i alw’r gweithwyr diogelwch, i arwain y person i le diogel, i’w helpu i adael y safle yn ddisylw. 

          Home – Ask For Angela 

          Template File: single.php