Grooming – 11. Meithrin perthynas amhriodol oedolyn
Roeddem yn arfer defnyddio’r term “stranger danger” i rybuddio plant i fod yn wyliadwrus rhag oedolyn nad oeddent yn ei adnabod, i fwrw ymlaen yn ofalus ac i fod yn ofalus iawn ynghylch pa wybodaeth bersonol yr oeddent yn ei rhannu. Fel oedolyn, sut fyddech chi’n diffinio dieithryn? (1 funud) Ystyriwch pryd y byddai dieithryn yn dod yn ffrind neu’n gyfarwydd. Cymharwch eich ateb chi gydag atebion pobl eraill a gweld os oes unrhyw amrywiaethau. I rai pobl maent yn dal i fod yn ddieithryn nes maent wedi cyfarfod y person ar nifer o achlysuron ac yn adnabod pobl mae’r unigolyn yn eu hadnabod. Mae’n ffurf o wirio hunaniaeth. I eraill, efallai eu bod wedi sgwrsio ar-lein am gyfnod o amser. Mae un o bob tri perthynas yn cychwyn ar-lein erbyn hyn, ac oherwydd hyn rydym angen bod yn fwy ymwybodol o faint o wybodaeth bersonol rydym yn ei rhannu, yn cynnwys apiau lleoliad.