Jane Ashman Logo

Grooming – 10. Tactegau a ddefnyddir gan rai sy’n meithrin perthynas amhriodol

Nid yw rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol yn meithrin yr unigolyn yn unig, maent hefyd yn meithrin y teulu neu weddill y staff yn yr ysgol, os ydynt yn aelod o’r staff sy’n dymuno cam-drin y plant yn yr ysgol. 

Mae’r tactegau a ddefnyddir gan rai sy’n meithrin perthynas amhriodol yn amrywio a gall gynnwys y canlynol (edrychwn ar y rhain mewn mwy o fanylder yn y modiwl ar ecsbloetiaeth):  

  • Oedolyn / ffrind maent yn ymddiried ynddynt 
  • Cam-drin cyfoed ar gyfoed 
  • Masnachu 
  • Model Parti 
  • Ar-lein 
  • Manteisgar 
  • Model Cariad 
  • Yn ymwneud â gang  
  • Ecsbloetiaeth masnachol 

Mae’n anodd iawn weithiau i unigolyn sylweddoli fod rhywun yn ceisio meithrin perthynas amhriodol gyda hwy. Maent yn ymddiried yn yr un sy’n ceisio meithrin y berthynas amhriodol ac yn credu eu bod yn ffrindiau da neu eu bod mewn perthynas gyda nhw. Mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ymwybodol ac yn gweithredu ar unrhyw bryderon sydd gennym.  

Template File: single.php