Grooming – 1. Cyflwyniad
Bu achos o Bennaeth yn meithrin perthynas amhriodol a cham-drin plant, gydag un o’r goroeswyr oedd yn rhan o’r achos wedi bod yn chwilio ar-lein yn gofyn, “sut ydw i’n gwybod os wyf yn cael fy meithrin ar gyfer perthynas rywiol?” Mae hyn eto’n pwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni a’n disgyblion yn gwybod beth yw meithrin perthynas amhriodol.
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar ‘feithrin perthynas amhriodol’ a sut gall unrhyw un ddod yn ddioddefwr meithrin perthynas amhriodol. Mae’r un sy’n meithrin y berthynas amhriodol yn gwneud hynny nid yn unig i’r unigolyn, gall hefyd fod yn meithrin perthynas amhriodol gyda’u teulu, ffrindiau neu gydweithwyr hefyd.
Erbyn diwedd y modiwl hwn byddwch yn gwybod:
- Diffiniad o ‘feithrin perthynas amhriodol’
- Pam ei fod yn bwysig i gynyddu dealltwriaeth plant a phobl ifanc o feithrin perthynas amhriodol
- Pa gamau bydd rhywun sy’n meithrin perthynas amhriodol yn eu cymryd er mwyn meithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn/oedolyn.
- Sut gall oedolyn amddiffyn eu hunain yn erbyn ‘catfishing’ a thwyll rhamant
- Beth i’w wneud os oes gennych bryderon
- Ble i gael cefnogaeth a gwybodaeth bellach am y pwnc yma