Disclosure – 9. Gwrando Gweithredol
Mae’n bwysig, yn ystod datgeliad, ein bod yn gwrando’n weithredol ac yn clywed yr hyn mae’r unigolyn yn ei ddweud.
Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, bydd angen i ni grynhoi a gwirio ein dealltwriaeth gyda’r unigolyn.
Pan rydym yn ailadrodd y wybodaeth yn ôl iddynt, mae’n bwysig ein bod yn defnyddio eu geiriau a’u hymadroddion nhw gymaint â phosibl. Dengys hyn ein bod yn gwrando go iawn ac mae’n bwysig yn ystod eich cofnodi o’r datgeliad wedi iddo ddigwydd.
Os yw’r unigolyn yn edrych arnoch, dylech roi cysylltiad llygaid i lygaid yn ôl. Dengys hyn eich bod yn canolbwyntio, yn ymgysylltu ac yn gwrando arnynt. Ond, os yw’r datgelydd yn edrych oddi-wrthych, peidiwch â cheisio ei orfodi a gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus.
Bydd eich iaith corff a’ch mynegiant wyneb yn allweddol yn ystod y datgeliad. Gall un o’r rhwystrau i ddatgeliad fod yn blentyn sydd ddim eisiau achosi gofid i oedolyn maent yn ymddiried ynddynt. Golygai hyn, yn ystod datgeliad, fod yn rhaid i ni gadw ein emosiynau dan reolaeth. Yn ymarferol, golygai hyn gadw ystum agored ac edrychiad o wên, a all fod yn anodd iawn.
Unwaith mae’r datgeliad wedi dod i ben, mae’n bwysig ein bod yn gadael ein emosiynau allan ac yn adrodd i’r PDD. Bydd yn sicr yn effeithio arnom ac, o bosibl, yn achosi trawma dirprwyol (edrychwch ar y modiwl hunan-ofal am fwy o wybodaeth ynghylch hyn).