Jane Ashman Logo

Disclosure – 7. Cymryd nodiadau

Bydd p’un a ydych yn cymryd nodiadau ai peidio’n dibynnu’n fawr ar y sefyllfa.

Os ydych yn dymuno cymryd nodiadau, yna mae’n rhaid i chi ofyn i’r unigolyn am eu cydsyniad yn gyntaf.

Eglurwch wrthynt pam yr hoffech gymryd nodiadau, sicrhewch eu bod yn gwybod y gallent wirio eich nodiadau wedyn ac eglurwch beth fydd yn digwydd i’r nodiadau.

Mae’n rhaid i chi gadw’r nodiadau gwreiddiol yr ydych wedi eu hysgrifennu bob amser, hyd yn oed os ydynt wedi cael eu teipio a’u ffurfioli air am air wedyn, ac mae’n rhaid i chi basio’r nodiadau gwreiddiol hynny ymlaen i’r PDD er mwyn iddynt gael eu cadw.

Gellir gofyn am eich nodiadau fel rhan o achos troseddol a gellid eu defnyddio hefyd os gelwir chi fel tyst mewn achos.

Os yw’r datgelydd yn gofyn i chi beidio cymryd nodiadau, yna bydd angen i chi ddibynnu ar eich cof. I hyn, mae’n ddoeth ailadrodd y wybodaeth yr ydych yn credu eich bod wedi ei chlywed yn ôl i’r unigolyn. Gallwch ddechrau gyda, “Rwyf eisiau gwneud yn siŵr fy mod wedi clywed yn iawn, os caf rhywbeth yn anghywir, dywed wrthyf.”

Mae’r lleoliad hefyd yn ffactor o ran penderfynu os allech gymryd nodiadau, gan fod yn well gan rai unigolion y dull cerdded a  siarad, yn hytrach nac eistedd i lawr mewn swyddfa. Mae’n anodd iawn cymryd nodiadau tra’n cerdded.

Os ydych chi’n teimlo na fyddech yn gallu rhoi’r sylw maent ei angen i’r unigolyn oherwydd eich bod yn cymryd nodiadau, yna peidiwch â chymryd nodiadau.

Defnyddir y derminoleg “nodiadau” yn bwrpasol. Nid oes gofyn i chi gymryd adroddiad gair am air o’r union beth mae’r unigolyn yn ei ddweud. Os ydych chi’n cymryd nodiadau dylech nodi prif bwyntiau’r wybodaeth, h.y. beth sydd wedi digwydd a beth yw’r risgiau presennol i’r unigolyn. Byddai’r heddlu’n cymryd datgeliad llawn (petai angen), ac fe fyddai’n cael ei wneud gan swyddogion wedi eu hyfforddi mewn ffurf Achieving Best Evidence (ABE) o gyfweld.

Mae cyfweliadau ABE yn digwydd ar gyfer dioddefwyr a thystion sy’n blant ac yn oedolion yn ystod ymchwiliadau troseddol. Mae’r arweiniad cyfweld sydd wedi ei osod allan yn ABE yn cynnwys cyfweliadau wedi eu recordio ar fideo gyda thystion sy’n agored i niwed neu sydd wedi cael eu bygwth, ble bwriedir chwarae’r recordiad fel y prif dystiolaeth yn y llys. Mae ABE yn hyrwyddo ymagwedd gryf ble mae’r dioddefwr yn ganolog, ac sy’n wybodus am drawma drwyddi draw.

Template File: single.php