Disclosure – 5. Cyfrinachedd
Cyn i ddatgeliad ddigwydd, ein blaenoriaeth gyntaf ddylai fod i sicrhau bod y datgelydd yn iawn, ac i ddarganfod os ydynt angen unrhyw driniaeth feddygol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi gyda hynny yn gyntaf.
Mae angen i ni sicrhau hefyd bod yr unigolyn yn ymwybodol o’n dyletswydd o ran cyfrinachedd, sef bod gennym rwymedigaeth i rannu unrhyw beth y maent yn ei ddweud wrthym a allai eu rhoi nhw (neu unrhyw un arall) mewn risg.
Mae’n ddoeth bod yn benodol yn y fan yma o ran i bwy y byddech yn pasio’r wybodaeth ymlaen. Os oes posteri o amgylch eich hysgol am y PDD neu’r Dirprwy PDD, yna gallech gyfeirio at hwnnw, neu os byddai gwasanaeth ysgol wedi bod fu’n egluro’r sefyllfa, gallech gyfeirio at hynny.
Mae’n hynod bwysig i gael gwared o’r rhwystr o bobl ddim yn gwybod beth sy’n digwydd i’r wybodaeth y maent yn ei rhannu. Os ydynt yn penderfynu peidio dweud wrthych, yna dylech dawelu eu meddwl fod hynny’n iawn, ac mae’n rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod yn parchu’r penderfyniad hwnnw.
Sicrhewch eu bod yn gwybod y gallent ddod yn ôl ar unrhyw adeg os oes ganddynt gwestiynau neu os ydynt yn dymuno siarad. Mae’n rhaid i chi ddal i gofnodi eich bod wedi siarad gyda’r unigolyn.