Disclosure – 4. Amseru
Pan mae unigolyn yn dechrau siarad gyda chi, mae’n anodd iawn gwybod beth maent yn mynd i’w ddweud, a beth maent yn mynd i’w ddatgelu. Ni allwn reoli pryd y bydd datgeliad yn digwydd ac, felly, mae’n bwysig ein bod yn cynllunio cymaint â phosibl cyn datgeliad.
Mae’n bwysig ein bod yn gwybod pa ofodau sydd ar gael i ni os yw unigolyn yn gofyn i gael sgwrs gyda ni mewn preifatrwydd. Nid yw hyn bob amser mor hawdd ac y mae’n ymddangos. Os nad oes gennych eich swyddfa eich hun ac mae pob ystafell ddosbarth yn cael eu defnyddio, gall fod yn anodd dod o hyd i ofod addas.
Mae’n syniad da i ofyn i’ch Person Dynodedig Diogelu (PDD) pa ofod fyddai ar gael os byddai angen i chi gael sgwrs breifat gyda phlentyn, gan sicrhau bod yna fwy nag un opsiwn.
Mewn sefyllfaoedd datgelu, mae’n iawn i siarad gydag unigolyn ar eich pen eich hun, oherwydd mai chi yw’r person maent wedi dewis ymddiried ynddynt. Er hynny, mae angen i chi feddwl am eich diogelwch chi. Ystyriwch fesurau megis ystafell gyda ffenestr â gwelededd yn y drws , er mwyn i eraill allu eich gweld chi a’r datgelydd drwyddi. Mae hefyd yn gwneud synnwyr i gysylltu â’r swyddfa neu aelod staff arall i’w hysbysu eich bod gydag unigolyn ac nad ydych i gael eich aflonyddu.