Disclosure – 2. Barriers
Trawsgrifiad Fideo
Yn y modiwl ‘Arwyddion a Dangosyddion’, edrychasom ar ba rwystrau sy’n wynebu unigolion sy’n dymuno dod ymlaen a datgelu i unigolyn. Yno, roedd pethau megis cywilydd. Efallai nad ydynt yn gallu defnyddio’r eirfa maent eisiau ei defnyddio, ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd nesaf, roedd amrywiaeth.
Peth arall mae angen i ni ei ystyried, a rhywbeth rydym yn ei ystyried yn y modiwl ‘Datgelu’ hwn yw sut y gallwn ni ein hunain fod yn rhwystr i’r datgelu. Gallai hyn ymwneud â’n parodrwydd i ofyn y cwestiynau, felly roedd gennym y cwestiynau dechreuol hynny o, “Rwyf wedi sylwi dy fod yn drist”, “Rwyf wedi sylwi dy fod wedi blino yn y dosbarth”, “Rwyf wedi sylwi dy fod yn gadael y gwaith am 5 o’r gloch ar ei ben, byth yn hwyrach, ac os yw hi ychydig yn hwyrach rwyt yn edrych ar dy oriawr drwy’r amser.”
Dyma’r ‘ffyrdd i mewn’ y gallwn eu defnyddio gyda’r cwestiynu yma. Ond, beth mae’n rhaid i ni ei ystyried hefyd, ac rwy’n meddwl yn ôl i’n ngyrfa i fel athrawes addysg gorfforol ac rwy’n gwybod bod yr un yma’n sicr yn berthnasol i mi, sef ein hargaeledd. Oherwydd rwy’n gwybod pan oeddwn i’n dysgu addysg gorfforol, bod adegau pan roeddwn i’n cloi’r gampfa a byddai fy ngwers theori ar ochr arall yr ysgol.
Ac rwy’n cwestiynu, petai plentyn wedi dweud wrthyf bryd hynny, “Miss, oes gennych chi funud? Dwi angen siarad gyda chi,” mae’n debyg mai fy ateb fyddai, “Rwyf angen mynd i’n ngwers, tyrd yn ôl i’n ngweld i yn ystod amser egwyl.” Ni fyddwn wedi stopio ar unrhyw bwynt, byddwn wedi cario ‘mlaen i fynd i’n ngwers. Yr argraff mae’r plentyn yna’n ei gael wedyn yw fy mod i’n rhy brysur i ddelio gydag unrhyw beth.
A gwelais hyn eto yn un o’r ysgolion rwyf yn gweithio gyda hwy ble, pan siaradais gyda’r myfyrwyr yn y dosbarth, roeddent yn dweud wrthyf na fyddent yn mynd at y Pennaeth Blwyddyn i ddatgelu, a minnau’n meddwl iawn ac yn dweud, “Pam?” a nhw’n dweud, “O, na, maen nhw’n rhy brysur, nid oes ganddynt yr amser.”
Pan siaradais wedyn gyda’r Pennaeth amdan y Pennaeth Blwyddyn, roedd ganddo wên ar ei wyneb, ac rwy’n cofio gofyn, “Wel, dweud wrthyf, beth?” A dywedodd wrthyf, “Wnei di fy nghredu Jane, os dywedai wrthyt fod fy holl Benaethiaid Blwyddyn yn ddigyswllt?” Rwy’n meddwl wedyn, pam bod hyn felly? Mae gen i blant sy’n dweud na allent fynd at y Pennaeth Blwyddyn am nad oes gan y Pennaeth Blwyddyn amser, ac eto mae’r Pennaeth Blwyddyn yn ddigyswllt. Mae anghysondeb yma rhwng sut mae plant yn ei weld, neu efallai eu bod wedi bod i’r swyddfa a’r drws ar gau, neu pan maent wedi gofyn am amser, nid ydynt wedi gallu eu hateb bryd hynny.
Rhywbeth fel, “Tyrd yn ôl yr adeg yma”. Felly, plîs, beth am sicrhau nad ydym yn rhwystr i hyn ychwaith, ac ein bod yn rhoi’r cyfle yna, ein bod yn cymryd yr amser.
Felly, os oes myfyriwr neu oedolyn yn stopio ac yn dweud, “Oes gennych chi funud?”, cymerwch y cyfle a rhoi’r cyfle hwnnw iddynt i ddechrau’r sgwrs. Oherwydd, bryd hynny, nid ydym yn gwybod os yw’n mynd i fod yn ddatgeliad ai peidio. Efallai, fel athrawes addysg gorfforol, eu bod eisiau gwybod os ydynt yn chwarae yn y gêm bêl-rwyd.
Ac wedyn gallaf ddelio gyda hynny, neu gyda “Beth sy’n digwydd gyda’r tîm” neu “Faint o’r gloch ydan ni’n gadael?” “Felly picia’ nôl amser egwyl i’n ngweld i am hynny.” Ond gallai fod yn gyfle mae’r plentyn wedi bod yn paratoi amdano, neu oedolyn wedi paratoi amdano, a’u bod eisiau datgelu.
Felly meddwl ynghylch ein hychwanegu ni i’r rhwystrau