Disclosure – 17. Camau Nesaf
- Gofynnwch i’ch PDD am awgrymiadau o ran llefydd y gallech fynd ag unigolyn os oeddent eisiau siarad gyda chi’n gyfrinachol.
- Gwiriwch eich bod yn hapus gyda’r system gofnodi y disgwylir i chi ei defnyddio, boed hynny’n gopi papur neu’n system ar-lein. Sicrhewch eich bod yn gallu mewngofnodi a’ch bod wedi gweld pa wybodaeth sydd ei hangen.
- Ymgyfarwyddwch eich hun gyda’r ffurflen adrodd ar gyfer eich awdurdod. Naill ai gofynnwch i’ch PDD neu lawrlwytho copi o’ch ffurflen adrodd diogelu rhanbarthol , rhag ofn y bydd angen i chi i’w defnyddio.
- Darllenwch fy mlog: Beth i’w wneud yn ystod datgeliad -Jane Ashman Safeguarding
- Communicating with children | CSA Centre
Os rydych chi’n pryderu
Mae adrannau 128 ac 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd ar oedolyn sydd mewn risg neu blentyn sydd mewn risg.
Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol hon yn berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant.
O fewn ysgolion, golygai hyn gofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD).
Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn gallu adeiladu llun llawnach o’r sefyllfa.
Llinellau Cymorth
Childline – cefnogaeth 24 awr ar gyfer pobl ifanc, ar y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuo 0800 1111
The Mix – gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed 0808 808 4994
Meic – 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos 080880 23456, gydag opsiynau sgwrsio ar-lein hefyd ar gael. Testun 84001
Galop – i gefnogi pobl LGBT+ 0800 999 5428 help@galop.org.uk
Samaritans – cefnogaeth ar gael 24/7 ffoniwch am ddim ar 116 123, e-bostiwch jo@samaritans.org neu ddefnyddio’r sgwrs ar-lein
NSPCC – 0808 800 5000
National Association for People Abused in Childhood – 0808 801 0331
- Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm,
- Dydd Gwener: 10am – 6pm,
- Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau
Feedback
Feedback is important to us, if you have the time please fill out the form below. We use your feedback to make further improvements to our course content to provide you a better service.