Jane Ashman Logo

Disclosure – 16. Yn gryno

  • Sicrhewch bod yr unigolyn yn ddiogel cyn i’r datgeliad ddigwydd
  • Gwrandewch ar yr unigolyn yn ystod y datgeliad
  • Hysbyswch y PDD neu’r Dirprwy PDD yn dilyn y datgeliad
  • Cofnodwch y digwyddiad (defnyddiwch eiriau’r dioddefwr gymaint â phosibl) yn dilyn y datgeliad
  • Os yw’r datgeliad ynghylch aelod staff neu wirfoddolwr mewn unrhyw sefydliad, sicrhewch eich bod yn dilyn y gweithdrefnau ar gyfer rheoli honiadau yn erbyn staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant.

Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at Bolisi Diogelu eich Ysgol i weld sut y dylech gofnodi eich pryder.  

Mae’n hollbwysig nad ydym yn oedi pan yn adrodd ar ein pryderon i’r Person Dynodedig Diogelu (PDD). Mewn rhai esiamplau, efallai y bydd y PDD yn dymuno gofyn i chi hefyd i ffonio neu i siarad gyda nhw mor fuan â phosibl, yn ogystal â chwblhau’r cofnod. Gallai esiamplau o hyn gynnwys plentyn sydd â chleisio sydd wedi ei achosi gan gam-drin, neu ei bod yn agos i ddiwedd y diwrnod ysgol a bod pryderon ynghylch diogelwch y plentyn os byddent yn dychwelyd adref.

Wedi i chi siarad gyda’r PDD, mae dal angen i chi cwblhau’r cofnod ysgrifenedig. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn fel ffynhonnell sylfaenol y wybodaeth, yn hytrach na’i ailadrodd i rhywun arall a nhw’n ei gofnodi. Mae hyn er mwyn sicrhau, ble bynnag y bo’n bosibl, fod y wybodaeth yn cael ei chofnodi gan y ffynhonnell sylfaenol, yn hytrach nac  eilaidd, er mwyn ei fod mor fanwl gywir â phosibl.

Os, am unrhyw reswm, nad yw’r PDD neu’r DPDD ar gael, yna ni ddylid oedi i’w adrodd i’r Gwasanaethau Plant. Bydd yn rhaid i chi gysylltu â’ch Gwasanaethau Plant lleol a’u hysbysu ynghylch eich pryder. Bydd angen i chi egluro eich bod yn eu galw oherwydd nad yw’r PDD ar gael. Efallai y byddent yn gofyn i chi gwblhau’r ffurflen adrodd a’i gyrru iddynt. Mae’n ddoeth ymgyfarwyddo eich hun gyda’r ffurflen, er mwyn eich bod mewn sefyllfa dda i allu ei llenwi os bydd gofyn.

Os nad oes gennych fynediad i’r ffurflen yn yr ysgol, gallwch ofyn i’r Gwasanaethau Plant i yrru copi i chi, neu gallwch lawrlwytho copi o’r bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer eich ardal. I ddod o hyd i’ch bwrdd diogelu rhanbarthol cliciwch yma: Dod o hyd i’ch Bwrdd Rhanbarthol – Bwrdd Diogelu Cymru.

Cliciwch ar y ddolen briodol ar wefan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol i ddarganfod sut i adrodd ar bryder ac i gael gopi o’r ffurflen.

Template File: single.php