Jane Ashman Logo

Disclosure – 15. Fact, Opinion and Judgement

Sut wnaethoch chi o ran cynnwys manylder o fewn eich hadroddiad? Fel wrth adrodd ar bryderon, mae’n bwysig cofnodi ffeithiau, yn hytrach na barn neu ddyfarniad. Er, efallai bod lle i’r rhain wrth roi darlun cyfannol, cyn belled â’ch bod yn datgan mai eich barn neu eich dyfarniad chi ydyw a’r hyn y mae’n seiliedig arno. 

  • Mae ffeithiau yn bethau neu’n ddigwyddiadau y gwyddys eu bod wedi digwydd, yn ddarn o wybodaeth y gellir ei dilysu neu’n rhywbeth rydych wedi’i weld neu ei glywed eich hun.
  • Mae barn yn gred y gallwch ei chael, ond heb fod wedi’i weld na’i glywed ni ellir ei brofi.
  • Diffinnir beirniadaeth fel y gallu i wneud penderfyniadau ystyriol neu ddod i gasgliadau synhwyrol ar ôl ystyried a meddwl yn ofalus.
Disclosure Quiz – Welsh
Roedd Osian yn llusgo’i eiriau, a wnaeth i mi feddwl ei fod wedi bod yn yfed.
Roedd Osian yn eistedd ar y llawr pan gyrhaeddais i, ac roedd ganddo chwydd mawr dros ei lygad dde.
Roedd potel wisgi wag ar y llawr wrth ymyl Osian, roedd arogl cryf o alcohol ar ei wynt, ac roedd yn llusgo’i eiriau, a wnaeth i mi feddwl ei fod wedi meddwi.
Dywedodd Osian “Mae Jac wedi cymryd fy arian, a cheisiais ei stopio, ond wnes i faglu”.
Roedd Osian yn ofidus.

Meddyliwch am sut y gallech droi’r datganiadau hyn yn ffeithiau. Efallai bod yna reswm meddygol pam bod Osian yn siarad yn aneglur.

Atebion posibl:
  1. Roedd Osian yn llusgo’i eiriau.
  2. Roedd Osian yn eistedd ar y llawr pan gyrhaeddais i, ac roedd ganddo chwydd mawr dros ei lygad dde.
  3. Roedd potel wisgi wag ar y llawr wrth ymyl Osian, roedd arogl cryf o alcohol ar ei wynt, ac roedd yn llusgo’i eiriau.
  4. Dywedodd Osian “Mae Jac wedi cymryd fy arian, a cheisiais ei stopio, ond wnes i faglu”.
  5. Roedd Osian yn crio / Dywedodd Osian wrthyf ei fod yn ofidus.

Ewch yn ôl i bwnc 14 i edrych eto ar y fideo ac i wneud unrhyw ddiweddariadau i’ch pryderon yn y blwch. Ydych chi wedi cael enwau’r unigolion i gyd? Ydych chi wedi cofnodi unrhyw anafiadau’n fanwl gywir? Ydych chi wedi cofnodi beth ddwedwyd a chan bwy yn fanwl gywir? Nid oes yn rhaid i hyn fod air am air, ond os ydych chi’n cofio’r union eiriau rhowch nhw mewn dyfynodau.

Template File: single.php