Disclosure – 13. Cofnodi pryder neu ddatgeliad
Os ydych chi’n cofnodi ar system ar-lein, yna bydd y penawdau yno i chi i’w cwblhau.
Os ydych chi’n cofnodi ar system bapur, fe ddylai bod gan eich ysgol ffurflen dempled i chi i’w chwblhau, eto gyda’r penawdau i chi i’w cwblhau.
Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi’r wybodaeth a ganlyn:
- Enw’r unigolyn
- Grŵp tiwtor / dosbarth (os yw’n ddisgybl)
- Dyddiad y datgeliad
- Amser y datgeliad
- Amser cofnodi’r datgeliad (mae hyn yn bwysig os oes oedi rhwng amser y datgeliad a chofnodi’r datgeliad)
- Enw’r person sy’n cofnodi’r datgeliad / pryder
- Ai’r person yma yw ffynhonnell sylfaenol y wybodaeth, os ddim yna enwch eich ffynhonnell sylfaenol (y person oedd â’r pryder neu dderbyniodd y datgeliad)
- Enwau unrhyw un arall oedd yn bresennol
- Natur y pryder / datgeliad
- Yr adroddiad a roddwyd (gan ddefnyddio geiriau’r unigolyn gymaint â phosibl)
- Disgrifiad o unrhyw anafiadau a map y corff wedi ei gwblhau
- Unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd
Dylai’r wybodaeth rydych yn ei chofnodi fod mor ffeithiol â phosibl. Gellir cynnwys arsylwadau, os yn ddefnyddiol, ond dylid bod yn eglur mai arsylwadau ydynt yn hytrach na ffeithiau. Mae’n hanfodol osgoi cofnodi eich barn, gan fod hyn yn oddrychol ac fe allai fod yn wahanol i bobl eraill (a’r datgelydd).
Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio geiriau’r unigolyn gymaint â phosibl, fel yr eglurir yma gan Jake Walker mewn erthygl yn y TES “The safeguarding disconnect affecting children and teachers”.
Yn yr esiampl yma o’r erthygl: “Pan mae’r plentyn yn dweud, ‘dad wnaeth o’ ac mae gan y plentyn ddau dad, un maent yn ei alw’n ‘dad’ ac un maent yn ei alw’n ‘daddy’, ac mae’r un sy’n cofnodi’n cofnodi ‘eu tad’, am pa un mae nhw’n sôn?” Yn yr esiampl yma, byddai’n bwysig bod yr aelod staff sy’n cofnodi’r datgeliad yn rhoi “Daddy”, yn union fel y dywedodd y plentyn.
Dywed Walker hefyd y daw mater hollbwysig arall o ran cofnodi’r derminoleg yn gywir gydag arddodiaid, megis y gwahaniaeth rhwng plentyn yn dweud bod rhywun wedi cyffwrdd ynddynt “yn” neu “ar” ran o’r corff – rhywbeth allai fod yn hawdd i’w gam-gofio wrth ysgrifennu nodiadau yn dilyn sgwrs.
Beth bynnag yw’r term mae’r plentyn yn ei ddefnyddio ar gyfer eu rhannau preifat, dyna ddylid ei gofnodi.
Mae yna achos o Bennaeth wedi cofnodi’r gair ‘pidyn’ yn hytrach na’r term a ddefnyddiwyd gan y plentyn. Wrth gwestiynu’r plentyn ynghylch yr hyn oedd wedi digwydd a beth yw pidyn, nid oedd gan y plentyn syniad o’r hyn roeddent yn siarad amdano ac nid oeddent yn gwybod beth oedd pidyn. Byddai’r peth yma sy’n ymddangos yn eithaf bach yn arwain i’r achos ddim yn cael ei brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol a drwgweithredwr honedig ddim yn cael eu herlyn.