Jane Ashman Logo

Disclosure – 11. Gorffen y sgwrs

Isod mae awgrymiadau ar gyfer ymadroddion y gallwch eu defnyddio i gau’r sgwrs yn dilyn datgeliad.

  • “Rwy’n deall bod hyn wedi bod yn anodd iawn i ti. Rwyt wedi gwneud y peth iawn trwy ddweud wrthyf.”
  • “Nid dy fai di yw beth sydd wedi digwydd.”
  • “Rwyt wedi dangos dewrder mawr heddiw.”
  • “Oes yna unrhyw beth arall rwyt ti’n dymuno ei ddweud wrthyf?”
  • “Diolch am fod yn agored ac am ymddiried ynof heddiw.”

Wedyn, eglurwch y camau nesaf a’r hyn fydd yn digwydd unwaith y bydd y sgwrs wedi dod i ben. Sicrhewch eu bod yn gwybod y byddwch yn gwneud eich gorau drostynt.

Gall rhoi cyfrwng i’r datgelydd yn yr hyn sy’n digwydd nesaf helpu, felly gofynnwch iddynt os ydynt yn dymuno dychwelyd i’r gwersi/gwaith, mynd adref, mynd i’r llyfrgell neu ganolfan cefnogaeth.

Y prif beth i’w gofio yw eu bod wedi ein hymddiried gyda’r wybodaeth, ac mae’n rhaid i ni ddangos nawr eu bod wedi gwneud y peth iawn trwy ymddiried ynom, trwy wneud yr hyn yr oeddem wedi dweud y byddem yn ei wneud. Mae’n rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod yn hysbysu’r datgelydd am yr hyn sydd wedi ei wneud.

Dim ond dechrau’r broses yw’r datgeliad. Efallai y bydd datgelydd yn profi’r broses trwy roi gwybodaeth gyfyngedig i weld beth fydd yn digwydd cyn penderfynu os ydynt am ymddiried mewn rhywun gyda’r stori gyflawn. Bydd angen cynnig cefnogaeth i’r datgelydd i’w helpu i reoli eu hemosiynau, eu teimladau, a’u dealltwriaeth o’r hyn sydd yn digwydd, helpu gyda gwaith cartref neu reoli dyddiadau cau. Mae angen i ni eu cefnogi ac eu grymuso i wneud penderfyniadau ac i gymryd rheolaeth yn ôl.

Template File: single.php