Jane Ashman Logo

Child Protection Conferences – 9. Grwpiau Craidd

Dylai’r Grŵp Craidd cyntaf gyfarfod o fewn 10 diwrnod gwaith wedi’r gynhadledd amddiffyn plentyn gyntaf, ac yna’n fisol (a dim hirach na bob chwe wythnos).

Mae’r grŵp craidd yn grŵp am-asiantaeth o ymarferwyr gyda chyfrifoldeb am ddatblygu a darparu Cynllun Diogelu Gofal a Chymorth.

  • Cydlynydd y cynllun sy’n cynnull y grŵp.
  • Mae pob aelod o’r grŵp craidd yn rannu perchnogaeth hafal am, a chyfrifoldeb dros, y cynllun.
  • Mae’n rhaid i’r aelodau gydweithio i gyflawni ei nodau.
  • Mae’n gyfrifoldeb ar aelodau’r grŵp craidd i herio ac i adrodd ar bryderon sydd ganddynt os ydynt yn credu nad yw’r cynllun yn amddiffyn y plentyn.
Fideo – Cynllun Diogelu Gofal a Chymorth

Yn y grŵp craidd cyntaf, sy’n digwydd o fewn 10 diwrnod i’r Gynhadledd Amddiffyn Plentyn gyntaf, bydd y drafft o’r Cynllun Diogelu, Gofal a Chymorth o’r gynhadledd yn cael ei osod ar y bwrdd, ac wedyn mae’n gyfrifoldeb ar yr ymarferwyr, y teulu, pawb, i ychwanegu manylion i’r cynllun hwnnw. Oherwydd yr hyn fydd gennych chi fydd penawdau’r ardaloedd hynny rydym eisiau gweld newid yn digwydd ynddynt.

Beth rwyf wedi ei weld yn flaenorol, ar nifer o Gynlluniau Diogelu, Gofal a Chymorth yw eu bod yn cynnwys camau gweithredu, ond nid yw’n nodi y deilliant rydym yn edrych amdano o’r gweithredu hwnnw. Felly, esiampl fyddai bod rhiant i fynychu cwrs magu plant. Ond y cwestiwn yw – beth ydyn ni am ei weld yn dod allan o hynny?

Gallech gael rhiant sy’n ticio’r blwch hwnnw, yn mynychu’r cwrs magu plant, ond nad oes unrhyw beth yn newid yn eu hymddygiad. Felly, mae’n hynod bwysig os ydym yn rhoi pethau sy’n gamau gweithredu i mewn, ein bod yn gweld pa weithredu rydym am ei weld o ganlyniad i hynny.

Felly, trwy fynychu cwrs magu plant, efallai ein bod am i’r rhiant siarad gyda’r plentyn mewn ffordd sy’n fwy parchus. Efallai ein bod am iddynt sicrhau eu bod yn casglu eu plentyn o’r ysgol gynradd, eu bod yn ymgysylltu gyda’r plentyn yna.  

Yn siarad gyda nhw, â diddordeb yn neilliannau addysgiadol eu plentyn. Os ydyw am bresenoldeb, os yw plentyn yn sâl eu bod yn cysylltu gyda’r ysgol a sicrhau eu bod yn gwybod os yw’r plentyn angen sylw meddygol. Eu bod yn mynd â nhw i weld y meddyg ac yn ymwybodol, tra mae nhw’n gwneud hynny, eu bod yn cysylltu â’r ysgol ac yn gadael iddynt wybod am y presenoldeb. Dyma’r math o beth rydym am ei weld, yn hytrach na dim ond mynychu cwrs magu plant.

Felly, tra’n ysgrifennu’r cynllun, mae’n rhaid i ni feddwl o fewn lleoliad ysgol, beth ydyn ni eisiau ei weld? Beth mae’r plentyn am ei weld yn newid yn eu bywyd? A gallai hynny fod yn rhywbeth mor syml â’u bod eisiau rhywun i ddarllen stori cyn gwely. Neu yr hoffent gael pryd bwyd wedi ei baratoi yn hytrach na gorfod mynd i lawr i’r siop tsips bob nos am nad oes pryd yn cael ei baratoi yn y cartref. Efallai eu bod eisiau dod adref a rhiant yno, rhiant sy’n eu helpu gyda’u gwaith cartref. Unrhyw beth o’r math yna, rhywbeth mae’r plentyn ei eisiau, mae’n rhaid ei gynnwys yn y cynllun.

Mae’r plentyn hefyd yn gyfrifol, oherwydd efallai bod camau gweithredu i’r plentyn eu gwneud, h.y. maent angen rhywun y gallent siarad gyda hwy, felly maent am enwebu rhywun o fewn staff yr ysgol maent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda hwy, ac wedyn fe fyddant yn mynd i siarad gyda’r aelod staff yna yn rheolaidd.

Felly bydd camau gweithredu ar gyfer pob asiantaeth, ar gyfer y rhieni ac, o bosib, fel dywedais i, i’r plant hefyd.

Y peth pwysig yw y dylem i gyd wybod sut mae’r deilliant yn edrych, beth ydym eisiau ei weld mewn, dywedwch, 6 mis, 9 mis ar gyfer y teulu hwn. Oherwydd os na allwn ddweud o edrych ar y cynllun hwnnw sut mae hynny’n edrych, sut fyddwn ni’n gwybod os yw’r teulu wedi ei gyflawni? Sut ydyn ni’n gwybod beth yw ein rôl ac yn cefnogi’r teulu yna, cefnogi’r plentyn i sicrhau eu bod yn cyrraedd y deilliant hwnnw? A’u bod yn gwneud hynny gyda’n cefnogaeth ni, fel dywedais yn gynharach, nid y ni yn ei wneud drostynt.

Felly mae’n hynod bwysig,  pan rydych chi’n adlewyrchu ac yn edrych yn ôl ar y cynllun bod popeth y gallwch ei weld yno, y gallwch ei weld o ran deilliant yr ydych am iddynt ei gyflawni.

Dylid gosod y cynllun ar y bwrdd wedyn ym mhob un grŵp craidd a phob asiantaeth yn cael eu dal i gyfrif. Felly, os yw addysg wedi dweud eu bod eisiau gofyn i’r plentyn gyda pha aelod staff yr hoffent siarad, neu efallai ein bod am ychwanegu cefnogaeth ychwanegol gydag ELSA neu am wneud atgyfeiriad am gwnselydd ar eu cyfer.

Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud hynny cyn y cyfarfod nesaf a’n bod ni’n adrodd yn ôl gan ddweud, ‘Ydyn, mae’r camau gweithredu hynny wedi eu gwneud, dyma fu’r effaith, mae’r plentyn wedi mynychu nifer ‘X’ o sesiynau, maent wedi siarad gyda’r aelod staff, dyma beth ddwedwyd’.

Os nad yw’r asiantaethau’n gwneud hynny, yna mae’n rhaid i ni eu dal i gyfrif. Ac os welwn ni nad yw’r asiantaethau’n mynychu’r grwpiau craidd, yna mae angen adrodd yn ôl ar hyn i’r asiantaeth berthnasol. Ac mae gennym ni i gyd yr un cyfrifoldeb o fewn grŵp craidd. Nid yw’r grŵp craidd yn cael ei redeg gan weithiwr cymdeithasol. Gallwn ni, fel unrhyw asiantaeth, ei gadeirio, gall unrhyw asiantaeth gymryd y cofnodion. Mae’r cynllun yn eiddo i bawb o fewn y grŵp craidd yna. Felly mae’n hynod bwysig nad ydym yn caniatáu i lithriad ddigwydd, a’n bod ni’n cadw amserlen dynn gyda hynny.

Fel staff mewn ysgol, efallai, eto, ein bod yn gofyn, bod y PDD yn gofyn i chi gael y sgyrsiau hyn gyda phlant, darganfod beth sy’n bwysig. Efallai y byddent yn gofyn i chi os ydych chi wedi cael eich henwebu gan y plentyn fel rhywun i fynd atynt. Sicrhewch eich bod yn eu diweddaru, pa mor aml rydych chi’n gweld y plentyn, ac yna gallwch roi’r adborth yna yn ôl i mewn i’r grwpiau craidd hynny.

Oherwydd eu mesur yn erbyn y cynllun fydd yn penderfynu os yw’r plentyn yn dal mewn risg, os yw’r plentyn wedi ymgysylltu, os oes angen i ni edrych am nad ydynt yn ymgysylltu gyda’r cynllun o gwbl, felly bod angen i ni edrych fwy ar gamau cyfreithiol. Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud ein rhan ni o’r rôl honno o fewn y cynllun hwnnw.

Template File: single.php