Jane Ashman Logo

Child Protection Conferences – 8. Deilliannau Posibl o’r Gynhadledd Amddiffyn Plentyn

Mae yna ddau deilliant posibl:

  1. Nid yw’r plentyn dan risg parhaus o niwed ond efallai bod ganddynt anghenion am ofal a chymorth.
    • Os yw’r mwyafrif o ymarferwyr yn dod i’r penderfyniad hwn, ni fydd y plentyn yn cael eu gosod ar y Rhestr Amddiffyn Plant gan na fyddent wedi cyrraedd y trothwy yma.
    • Anogir y teulu i barhau gydag asesiad llesiant i benderfynu pa ofal a chymorth allai hyrwyddo llesiant y plentyn orau.
    • Gall yr asesiad hwn gymryd hyd at naw wythnos ac mae’n wirfoddol. Gallai’r rhieni ddewis peidio rhoi caniatâd (eglurir yr hawl yma sydd gan y rhiant yn y modiwl Lefel yr Angen).
  2. Mae’r plentyn yn profi niwed neu mewn risg o niwed, ac felly wedi eu cofrestru ac yn destun Cynllun Diogelu Gofal a Chymorth.
    • Os cyrhaeddir y penderfyniad hwn, gosodir enw’r plentyn ar y Rhestr Amddiffyn Plant.
    • Llunnir Cynllun Diogelu Gofal a Chymorth drafft.
    • Mae’n rhaid cofrestru enw’r plentyn o dan un o’r categorïau cam-drin a ganlyn: Esgeulustod, Corfforol, Rhywiol, Emosiynol, neu Ariannol.

Nod y cynllun yw i:

  • Sicrhau diogelwch y plentyn ac atal niwed pellach
  • Hyrwyddo llesiant a datblygiad y plentyn
  • Cefnogi’r teulu (a’r teulu ehangach) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, ble mae hyn er budd gorau’r plentyn

Bydd y cynllun yn cael ei lunio yn y Grŵp Craidd cyntaf.

Template File: single.php