Jane Ashman Logo

Child Protection Conferences – 5. Llais y Plentyn

Mae’n hanfodol bod llais y plentyn yn cael ei glywed fel rhan o’r gynhadledd achos, i sicrhau bod yr ymarfer yn canoli ar y plentyn.
Mae tri prif opsiwn ar gyfer sicrhau hyn:

  1. Presenoldeb yn y gynhadledd a chyfranogiad gweithredol.
    • Mae’n rhaid ystyried hyn yn ofalus i sicrhau bod gan y plentyn y gallu i elwa o fynychu.
    • Os dewisir hynny, buaswn yn dal i awgrymu bod y plentyn hefyd yn paratoi cyfraniad ar wahân (gweler opsiwn 2).
  2. Paratoi cyfraniad i’w gyflwyno yn y gynhadledd.
    • Dylid cefnogi’r plentyn i baratoi hwn yn y cyfrwng maent yn ei ffafrio (e.e. darn ysgrifenedig, fideo byr).
  3. Eiriolaeth.
    • O dan Rhan 10, Adran 181 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan pob plentyn sy’n destun cynhadledd yr hawl i eiriolaeth.
    • Gall eiriolwr fynychu gyda’r plentyn ac/neu siarad ar eu rhan.
Fideo – Sicrhau llais y plentyn

Mae’n bwysig bod yr wybodaeth rydym yn ei darparu i’r PDD, i’w chynnwys yn yr adroddiad addysg ar gyfer y Gynhadledd Amddiffyn Plentyn, yn cynnwys pethau rydym, o bosib, wedi sylwi arnynt. Felly, perthnasoedd y plentyn, boed hynny gyda’u rhieni. Nawr, pan rydym yn dweud ‘rhieni’, sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn trin y rhieni ar wahân.

Beth rwy’n ei olygu yn y fan yna yw, Rhiant 1, efallai fod ganddynt berthynas wych gyda nhw. Rhiant 2, efallai bod ychydig mwy o straen, Rhiant 3 (os ydynt yn lys-riant neu’n bartneriaid i rieni), efallai bod perthynas wahanol. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â’u rhoi gyda’i gilydd o dan ‘rhieni’, ein bod ni yn eu gwahanu fel unigolion.

Felly gallwn edrych ar y perthnasoedd sydd ganddynt gyda’u rhieni, gallwn edrych ar y berthynas sydd ganddynt gydag oedolion eraill yn y lleoliad ysgol. Gallwn edrych ar eu perthynas gyda’u grŵp cyfeillion, gyda chyfoedion eraill. Sut maen nhw’n rhyngweithio gyda phlant eraill yn y dosbarth? A yw’n wahanol yn dibynnu os ydynt yn y dosbarth o’i gymharu â bod yn eu cyfnodau chwarae?

Boed nhw’n eu hamser cinio, amser chwarae? Sut maen nhw mewn amgylchedd prysur? A’r hyn rydych yn edrych amdano yw, ia, ardaloedd o bryder, ond hefyd ardaloedd o gryfder.

Os oes gennych blentyn sydd wastad yn falch i weld Rhiant 1, yn rhedeg atynt ar ddiwedd y dydd, os ydynt yn cael eu casglu o’r feithrinfa neu’r ysgol gynradd. Mae hwnnw yn gryfder, ac felly sicrhau ein bod yn cynnwys y rhain hefyd. Oherwydd, mae angen i ni wybod beth yw’r cryfderau er mwyn gallu adeiladu arnynt.

Hefyd, beth rydym â diddordeb ynddo yw yr effaith, ac mae hynny’n mynd yn ôl i ble roeddem yn siarad am yr ‘Arwyddion a’r Dangosyddion’. Beth yn union yw’r effaith ar y plentyn? Oherwydd efallai ein bod ni’n meddwl un peth, ond mai rhywbeth arall ydyw.

Y sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yma, oherwydd mae mor bwysig, fel rydych newydd ei ddarllen, bod llais y plentyn yn glir o fewn Cynadleddau Amddiffyn Plentyn. Yr opsiynau, fel dywedais i, yw ia, gallent fynychu, ond fel gweithiwr proffesiynol rwy’n dal i gofio’r gynhadledd achos gyntaf fynychais i a pha mor nerfus oeddwn i, a minnau fel gweithiwr proffesiynol oedd hynny.

Felly, i blentyn yn mynd i mewn i’r amgylchedd yna, ai hwnnw yw’r amgylchedd cywir? Bydd asesiadau’n cael eu gwneud er mwyn dweud, “Iawn, gall y plentyn aros” neu “Na, rwy’n meddwl bod y cynnwys, gydag oedran y plentyn ac, yn emosiynol, ble maent ar hyn o bryd nid yw’n syniad da eu bod yn clywed peth o’r wybodaeth yma, felly cânt ddod i roi eu safbwynt ac wedyn cânt eu hesgusodi o weddill y cyfarfod.”

Mae yna’r opsiwn eiriolaeth, ond fel rwyf wedi ei grybwyll eisoes yn y fideo blaenorol, mae gennym 15 diwrnod rhwng y cyfarfod strategaeth hwnnw i benderfynu i gynnull Cynhadledd Amddiffyn Plentyn a’i gynnal.

Beth welwch chi, mae’n debyg, yw mai ond unwaith y bydd yr eiriolwr yn eu cyfarfod ac rydym eisoes yn gwybod bod plant angen cael perthynas gyda rhywun cyn iddynt ymddiried ynddynt.

Felly, eto, dyma ble rwy’n meddwl bod staff ysgol mewn safle da. Rydym wedi adnabod y plant yma, o bosib ers blynyddoedd. Rydym wedi cael perthnasoedd gyda nhw. Maent yn gwybod y gallent ymddiried ynom. Felly, efallai y bydd eich PDD yn troi atoch chi fel aelod staff sydd â pherthynas dda gyda’r plentyn yna, i eistedd i lawr gyda nhw a chael math o sgwrs ‘beth sy’n bwysig’. Iawn, efallai nad yw’n sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ swyddogol, ond bydd y ffurf yna’n sail iddi.

Ac, fel y gwelwch ar y sgrin, y pum ardal yma ydynt yn y bôn. Beth sy’n digwydd yn eu bywyd ar hyn o bryd? Beth maent yn ei hoffi am hynny? Pa ardaloedd nad ydynt yn eu hoffi? Beth sy’n bwysig iddynt hwy? Beth allai eu hatal rhag cyflawni’r hyn maent eisiau ei gyflawni? Beth yw eu cryfderau a’u sgiliau? Oherwydd, eto, mae gan pob un plentyn y rhain. Ac am beth maen nhw’n poeni? Felly, o dan y rhain, gallwn ofyn cwestiynau i’r plant a gwneud yn siŵr ein bod yn cael eu safbwynt nhw.

Hyd yn oed pan mae plentyn yn meddwl, “Ydw, ‘dwi am siarad mewn cynhadledd achos”, byddwn yn cynghori eich bod yn eistedd i lawr gyda nhw ac yn llunio yr hyn y maent am ei ddweud, maent eisiau ei ddweud, y pwyntiau. Oherwydd, eto, mae’n ffordd i’w helpu i gadw ar y trywydd iawn yn ystod hyn.

Felly, mewn eiliad rwyf am ofyn i chi i wneud gweithgaredd, ac i feddwl am sut y gallwn dorri y pum cwestiwn yma i lawr ymhellach eto. Felly pa fath o gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn? A gallai un o’r rhain ymwneud â grŵp cyfeillion. Gyda phwy maen nhw’n teimlo y gallent siarad pan maent yn poeni? Felly, edrych ar hynny. Ond, fel dywedais i, sicrhau ein bod yn clywed gwir lais y plentyn a’r hyn sy’n bwysig iddynt hwy.

Template File: single.php