Child Protection Conferences – 2. Cynadleddau Amddiffyn Plentyn
Mae dwy brif fath o gynhadledd amddiffyn plentyn:
- Y Gynhadledd Amddiffyn Plentyn Gychwynnol
- Y Gynhadledd Adolygu Amddiffyn Plentyn
Mae cynhadledd amddiffyn plentyn gychwynnol yn dilyn archwiliadau Adran 47, ble mae yna bryderon ynghylch risg barhaus o niwed i blentyn neu blant. Defnyddir Adran 47 y Ddeddf Plant (a gynhwysir yn y modiwl Deddfau ac Arweiniad) i ddarganfod os yw plentyn yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol, ac angen ymyrraeth i ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant.
Daw’r gynhadledd ag aelodau’r teulu (a’r plentyn, ble’n briodol) at ei gilydd, ynghyd â’r cefnogwyr, eiriolwyr, ac ymarferwyr sy’n fwyaf cysylltiedig â’r plentyn a’r teulu. Gyda’i gilydd, maent yn gwneud penderfyniadau am ddiogelwch, llesiant, a datblygiad y plentyn i’r dyfodol.