Jane Ashman Logo

Child Protection Conferences – 12. Cynhadledd Adolygu Amddiffyn Plentyn

Ym mhob adolygiad, gwneir benderfyniad ynghylch p’un a yw’r plentyn yn aros ar y gofrestr neu’n dad-gofrestru.

  • Gwneir benderfyniadau trwy ddefnyddio’r un meini prawf a’r gynhadledd gychwynnol: a yw’r plentyn yn profi neu mewn risg o niwed, ac oes ganddynt anghenion am ofal a chymorth?
  • Yn anaml mae plentyn yn cael eu dad-gofrestru yn yr adolygiad cyntaf (a gynhelir o fewn tri mis wedi’r gynhadledd gychwynnol), gan fod angen cynnal y newidiadau i ddangos bod y risg wedi lleihau.
  • Cynhelir yr ail adolygiad chwe mis yn ddiweddarach (naw mis ar ôl y gynhadledd gychwynnol).

Dylid dad-gofrestru plentyn os:

  • Bernir, ar sail y dystiolaeth, nad yw’r plentyn bellach mewn risg o niwed parhaus, sydd angen eu hamddiffyn o dan gynllun gofal a chymorth.
  • Mae’r plentyn a’r teulu yn symud yn barhaol i awdurdod lleol arall.
    • Bydd yr awdurdod lleol yn cynnull cynhadledd trosglwyddo amddiffyn plentyn a phenderfynu ar lefel y risg.
    • Bydd y plentyn yn cael eu tynnu oddi-ar gofrestr yr awdurdod gwreiddiol, ac naill ai’n cael eu gosod ar y gofrestr newydd neu beidio, yn dibynnu ar ganlyniad y gynhadledd.
    • Mae gan pob awdurdod lleol ei gofrestr amddiffyn plant ei hun; nid oes un gofrestr ganolog ar gyfer pob plentyn yng Nghymru (mae hyn yr un fath â Lloegr).
  • Mae’r plentyn yn cyrraedd 18 mlwydd oed, yn marw, neu’n gadael y Deyrnas Unedig yn barhaol.

Pan mae plentyn yn cael eu dad-gofrestru, efallai y byddant yn parhau i fod angen cefnogaeth staff yn yr ysgol i helpu i brosesu yr hyn sydd wedi digwydd a sut maent yn dymuno i bethau symud ymlaen. Mae’n bwysig ein bod ni’n dal yno i wrando ar y plentyn, ac yn eu helpu i leisio unrhyw bryderon neu welliannau maent yn eu profi.

Template File: single.php