Jane Ashman Logo

Allegations Against Staff – 8. Rhwystrau Posibl

Yn fy mhrofiad i, rwyf wedi gweld achosion o staff ddim yn adrodd ar bryderon oherwydd:

  • Nad oeddent wedi gweld y digwyddiad fel cam-drin ond, yn hytrach, yn nodwedd o ddiwylliant ac ymarfer yn yr ysgol honno
  • Eu bod yn ofni colli eu swyddi
  • Eu bod yn ofni bod yn anghywir
  • Roedd yr aelod staff yn uwch na nhw
  • Roedd aelodau staff eraill wedi adrodd yn flaenorol ac nid oedd unrhyw beth wedi newid, hyd yn oed pan roedd yr awdurdod wedi cymryd rhan
  • Canfyddwyd bod Cadeirydd y Llywodraethwyr â pherthynas gyfeillgar gyda’r aelod staff, yn chwarae pêl droed gyda hwy y tu allan i’r sefyllfa broffesiynol
  • Eu bod yn teimlo nad oedd yn ddim o’u busnes nhw

Cofiwch: gellir chwythu’r chwiban yn ddi-enw. Ni waeth beth yw ein pryderon ynghylch adrodd, y ffaith yw ei fod yn ddyletswydd arnom i adrodd; mae’r methiant i wneud hynny yn caniatáu i’r cam-drin i barhau.

Template File: single.php