Jane Ashman Logo

Allegations Against Staff – 9. Pryderon Lefel Isel

Nid yw pryderon lefel isel yn bryderon di-nod – ymddygiadau ydynt sydd ddim yn cyrraedd y trothwy i’w hatgyfeirio ond maent yn dal i fod angen sylw.

Mae pryder lefel isel yn unrhyw bryder. 

Does dim ots pa mor fychan ydyw, hyd yn oed os ydyw’n rhywbeth sy’n achosi ymdeimlad o anesmwythder neu amheuaeth bod oedolyn sy’n gweithio mewn neu ar ran ysgol/coleg wedi ymddwyn mewn ffordd sydd:

  1. yn anghyson gyda’r cod ymddygiad staff, yn cynnwys ymddygiad amhriodol y tu allan i’r gwaith; ac
  2. ddim yn cyrraedd y trothwy honiadau neu, fel arall, ddim yn cael ei ystyried yn ddigon difrifol i’w ystyried ar gyfer ystyried atgyfeiriad i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol. 

Mae esiamplau’n cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i):

  • bod yn or-gyfeillgar gyda phlant;
  • bod â ffefrynnau;
  • tynnu ffotograffau o blant ar eu ffôn symudol;
  • ymgysylltu gyda phlentyn ar sail un i un mewn ardal o’r neilltu neu tu ôl i ddrws sydd ar gau;
  • bychanu disgyblion
Cyflwyniad Fideo

Soniais am Marcus Erooga yn y modiwl ‘Recriwtio Mwy Diogel’, ac mae’n seicolegydd clinigol sy’n gweithio gyda throseddwyr rhyw cyson. Rwy’n cofio un o’r achosion y soniodd amdano, ble roedd yn gweithio gyda pherson oedd wedi cam-drin yn sefydliad A, heb gam-drin yn sefydliad B, ac wedi cam-drin eto yn sefydliad C.

Rwy’n cofio Marcus yn dweud ei fod wedi gofyn i’r unigolyn, “Pam wnaethoch chi ddim cam-drin yn sefydliad B?” A’r ateb oedd, “Ni fyddwn wedi cael i ffwrdd ag ef.” A dyma pam mae’r pryderon lefel isel rydym yn sôn amdanynt gyda Farrer & Co mor bwysig.

Oherwydd os gallwn sylwi ar y pethau bach, y gwthio bach ar y polisïau yna, dipyn o  “’Dwi newydd wneud galwad ffôn ar fy ffôn preifat yn hytrach na defnyddio ffôn yr ysgol.” “Rwyf newydd ddefnyddio fy e-bost personol yn hytrach na’r e-bost ysgol.” Bod â hoff blentyn.

Pethau felly. Os allwn ni sylwi ar yr arwyddion cynnar hynny, efallai y gallwn atal oedolyn rhag cam-drin. Ac, yn yr achos hwnnw, dyna beth ddigwyddodd yn y diwedd, oherwydd bod pethau mor dynn, aethant oddi-yno.

Mae’n bechod na fyddai’r tri sefydliad wedi bod mor dynn â sefydliad B.

Un esiampl rwy’n ei gofio, oedd un a rannwyd gyda mi pan roeddem mewn cyfarfod gydag Adran 5, gan aelod staff o ysgol. Ac roedd yr aelod staff yma mewn ysgol gynradd. Beth roeddent wedi ei wneud oedd, roedd yn ysgol iach. Felly rydym yn siarad am dermau sydd ond yn lithriad diwylliannol, y dechrau gwthio ychydig, ychydig o’r rheolau, gweld beth allent gael i ffwrdd gydag ef.

Ac, yn yr achos yma, beth oedd wedi digwydd oedd fod yr aelod staff yn gwybod nad oedd y plant yn cael siocled nac unrhyw beth. Felly, roedd ganddynt focs o siocled yn eu drôr a phan fyddai plentyn yn gwneud rhywbeth yn dda, byddent yn rhoi gwobr iddynt. Trwy ddweud, “Tyrd i’r blaen, tyrd i gasglu siocled.” Felly roedd hyn yn digwydd.

Ond ychwanegwch i hyn mai beth roedd yr aelod staff yn ei ddweud oedd, “Shh, chawn ni ddim dweud wrth neb. Am ein bod ni’n ysgol iach nid ydym i fod i gael siocled. Ein cyfrinach ni ydi hon.” Gwirio am wythnos neu ddwy, doedd y plant ddim wedi dweud dim. Felly, wedyn, aeth y bocs siocledi o’r ddesg, i mewn i gwpwrdd.”

Ac ddim i mewn i’r cwpwrdd yn unig, ond i silff uchaf y cwpwrdd, oedd yn golygu nad oedd y plant oedd yn cael eu haddysgu yn gallu ei gyrraedd. Felly, os oeddent eisiau trît am fod yn dda, ac wrth gwrs roedd gan yr aelod staff yma ei ffefrynnau, byddent yn mynd i mewn i’r cwpwrdd a byddai’n rhaid i’r aelod staff godi’r plentyn i fyny yn gorfforol i allu cael unrhyw siocledi.

Felly, gallwch weld fod y sefyllfa wedi mynd rŵan o rhyw fath o bryder lefel isel, h.y. nid ydym yn defnyddio siocled, rydym yn ysgol iach, rydym yn ei chadw’n gyfrinach, pethau felly. Wedi cael i ffwrdd gyda hynny, y llithriad sydd wedi digwydd. Ei roi yn y cwpwrdd wedyn, a gallu cael i ffwrdd gyda chysylltu’n gorfforol a chyffwrdd plant.

Felly, os gwelwch yn dda, unrhyw fath o dorri rheolau rydych chi’n ei weld, y gwthio bach yna’n erbyn polisi neu unrhyw beth. Os gwelwch yn dda, adroddwch arnynt. Hefyd, gallaf rannu esiampl hefo chi. Gallai fod yn rhywbeth ym mywyd personol yr unigolyn sy’n mynd ymlaen ac yn effeithio arnynt.

Felly, eto, profiad personol. Rwy’n cofio pan oeddwn i’n mynd drwy amser anodd yn fy mywyd personol, a dod i mewn i’r gwaith yn meddwl, “Wyddoch chi be’, dwi angen bod yn y gwaith, mae’n ormod o drafferth i osod y gwaith llanw a phopeth arall.” Ond mae’n rhaid i mi ddweud, mae nhw’n sôn am fwced straen a phethau, roedd fy mwced straen i’n gorlifo’r wythnos honno gyda phethau o’m mywyd personol, ond doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i ddweud wrth unrhyw aelod staff o fewn y lleoliad ysgol beth oedd wedi digwydd.

Teimlais y byddwn yn cael fy meirniadu gan y dirprwy neu’r pennaeth petawn yn datgelu iddynt. Wedyn, sylweddolais na fyddwn i, roedd y dirprwy bennaeth yn anhygoel gyda mi. Ond, beth ddigwyddodd oedd, roeddwn mewn gwers Lefel-A, roeddwn yn ceisio esbonio rhywbeth i’r myfyrwyr, sut i wneud rhywbeth, ac roedd yn ymwneud â’r sgerbwd ‘atodol’ ac ‘echelinol’ ac roedd gen i’r diagram yma, ac wedi ei labelu.

A dywedodd un o’r myfyrwyr wrthyf, “Miss, dwi’m yn ei ddeall.” Iawn, mynd drosodd, ei esbonio eto. “Miss, dwi’m yn ei ddeall.” Gwnes ef yn haws, fel cod, gwneud iddo liwio’r rhan yna yn y lliw yna, y rhan yna yn y lliw yna. “Miss, dwi’m yn ei ddeall.” A’r hyn ddaeth allan o’n ngheg i oedd, “Wyt ti’n ddwl, ‘ta be?”

Yn syth allan o’n ngheg. Y noson honno, wrth gwrs, gallwch ddychmygu, roeddwn yn ofidus iawn, yn meddwl, “Beth ar y ddaear ydw i wedi ei ddweud wrth fyfyriwr?” Deuthum o hyd i’r myfyriwr drannoeth, ymddiheurais i’r myfyriwr, gan ddweud, “Edrych, roeddwn i’n hollol anghywir gyda’r hyn ddywedais i ddoe.” Ymddiheurais, a beth ddychrynodd fi oedd y disgybl yn dweud wrthyf, “Miss, dyna’r tro cyntaf erioed i athro/athrawes ymddiheuro i mi.”

A meddyliais, beth arall mae unrhyw un erioed wedi ei ddweud wrtho yn y gorffennol ac yntau yn ei ddisgwyl, “Ia, dyna sut mae’n nhw’n siarad gyda fi, dyna beth mae nhw’n ei wneud.”

A, phan es i hunan-adrodd at y dirprwy (dyna pam rwy’n gwybod bod y dirprwy mor dda), es i hunan-adrodd a dweud, “Edrychwch, dyma ddigwyddodd” a dywedodd, “Beth sy’n digwydd Jane?” Ac esboniais. Ac roedd mor wych gyda mi, ac roeddwn yn meddwl, pam na es i yno gyntaf? Ond roedd y peth bach yna, doeddwn i ddim yn gwybod pa ymateb fyddwn i’n ei gael.”

Felly, plîs, efallai mai’r unigolyn sydd angen help a chefnogaeth. Oherwydd, yn sicr, dyma’r sefyllfa roeddwn i ynddi. Felly, os gwelwch yn dda, cadwch olwg allan am bryderon lefel isel. Oherwydd, fel dywedais i, y pethau bach yna, maent i gyd yn rhannau o’r jigso, fel maent gyda phlant.

Template File: single.php