Jane Ashman Logo

Allegations Against Staff – 6. Proses Adran 5

Cyflwyniad Fideo

Pan mae honiad wedi ei wneud yn erbyn aelod o’r staff, mae’n rhaid i’r ysgol ystyried os ydynt am atal yr aelod staff ai peidio. Nid yw’n benderfyniad awtomatig. Byddant yn selio’r penderfyniad hwnnw ar risg, a’r risg i’r plentyn, i blant eraill, ac i’r aelod staff hefyd. Oherwydd pan maent yn ei ystyried, maent yn mynd i ystyried opsiwn 1 – ‘y status quo’, aros fel y mae, bod yr aelod staff yna yn dal i addysgu, gweithio gyda phlant, yn dal yn yr ysgol.

Efallai y byddant yn penderfynu y gallent reoli’r risg trwy ddarparu aelod staff ychwanegol. Felly, nid yw’r oedolyn yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gydag unrhyw blant. Neu bod eu rôl yn newid fel nad ydynt mewn sefyllfa ble maent yn gweithio gyda phlant yn ddyddiol.

Unwaith mae’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud, os ydynt am atal ai peidio, os ydynt yn atal mae’n rhaid i chi gofio ei fod yn benderfyniad niwtral. Nid yw’n dweud eich bod yn euog yr un ffordd na’r llall. Ond, byddaf yn onest gyda chi, nid yw’n teimlo fel ei fod yn benderfyniad niwtral.

Oherwydd y peth cyntaf sy’n digwydd mewn cymuned yw fod llawer o bobl yn dechrau gofyn cwestiynau, yn gofyn, “Ble mae’r aelod staff?” Ac, yn anffodus, oherwydd bod y sefyllfa’n dal i fynd ymlaen, nid yw’r ysgol yn gallu ateb y cwestiynau hynny.

Felly cofiwch ei fod yn niwtral. Os cewch eich atal o’r gwaith, eto, dylid bod aelod staff ar gael i chi i’ch helpu drwy’r broses. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch eu gofyn iddynt. Hefyd, mae llawer o awdurdodau’n cynnig sesiynau cwnsela, sydd ar gael, oherwydd mae hwn yn mynd i fod yn amser dirdynnol iawn i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod yr opsiynau hynny.

Bydd y wybodaeth yn mynd i beth rydym yn ei alw’n Adran 5. Felly, mae’r Adran 5, fel dywedais i, yn rhan o’r gweithdrefnau diogelu, ac beth mae hyn yn ei olygu ydi cyfarfodydd ble mae’r asiantaethau’n dod at ei gilydd. Rhywun o addysg, gwasanaethau plant, heddlu, iechyd, a byddant yn trafod pa wybodaeth sydd ganddynt.

O hynny, byddant yn gweithio allan os ydynt angen unrhyw wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad. Bydd yr heddlu’n penderfynu os yw’n achos maent yn mynd i’w archwilio, os yw’n cyfarfod eu trothwy oherwydd yr elfen droseddol iddo. Os ydyw, yna bydd yr heddlu’n archwilio, naill ai eu hunain, neu fe allai gynnwys y gwasanaethau plant gyda hynny hefyd.

Efallai bod yna blant sydd angen eu cyfweld, h.y. byddant yn mynd yn ôl beth rydym yn ei alw’n gyfweliad ac archwiliad Adran 47. Bydd yr holl wybodaeth yna’n dal i ddod yn ôl i’r cyfarfodydd strategaeth broffesiynol. A byddant yn parhau nes gwneir penderfyniad yn y diwedd.

Bydd y penderfyniad ddaw o’r cyfarfod strategaeth hwnnw yn un o bedwar opsiwn, pedwar deilliant fel rydym yn eu galw.  Y cyntaf yw fod y cyhuddiad, yr honiad, yn ‘ddi-sail’, does dim tystiolaeth i brofi ei fod wedi digwydd.

Felly, beth gallech ei gael yw esiamplau fel pobl yn dweud, “Roedd rhywun wedi gafael yn neu lusgo fy mhlentyn” i rhywle. A phan rydych yn edrych ar y dystiolaeth teledu cylch cyfyng, beth welwch chi yw fod yr aelod staff wedi arwain y plentyn i ffwrdd o’r ymladd. Felly, mae’r dystiolaeth yn glir, yn dangos nad oes dim cyhuddiad yn eu herbyn. A dweud y gwir, byddem yn poeni mwy pe na baent wedi stopio’r ymladd. Felly, meddwl am bethau felly gyda’r ‘di-sail’.

Mae un arall hefyd. Oherwydd golygai ‘di-sail’ bod y person wedi gwneud y datgeliad ei hun yn meddwl bod cam-drin wedi digwydd. Yr un arall yw’r hyn rydym yn ei alw’n ‘faleisus’. Felly mae hyn wedi ei greu’n fwriadol neu’n faleisus, ac yma mae angen i ni ystyried hefyd, pam bod y person wedi gwneud hynny? Ac edrych i weld os ydynt hwy angen cefnogaeth ar y pwynt hynny hefyd.

Y ddau arall, ‘wedi’i brofi,’ h.y. mae digon o dystiolaeth i brofi ei fod wedi digwydd, a’r ‘lefel tebygolrwydd’ yw’r hyn rydym yn edrych arno yn y fan yma. Mae’r heddlu’n edrych ar faich prawf gwahanol. Maent yn edrych ar ‘tu hwnt i amheuaeth resymol’, sef beth maent yn edrych amdano ar gyfer erlyniad troseddol, i benderfynu ei fod werth mynd ag ef i’r ‘CPS’ a symud ymlaen i erlyniad troseddol. Ond ar gyfer hyn, a ‘disgyblu’, rydym yn edrych ar gloriannu’r tebygolrwydd. Wnaeth o ddigwydd? A, ‘do’ neu ‘naddo’, beth yw’r tebygolrwydd?

Yr un arall ydi ‘heb ei brofi’. Nawr, dyma ble mae rhai pobl yn mynd yn ddryslyd. Golygai ‘heb ei brofi’ nad oes digon o dystiolaeth i brofi yr un ffordd na’r llall. Mae rhai yn meddwl oherwydd ei fod heb ei brofi neu fod yr heddlu heb weithredu ymhellach nad ydyw, felly, wedi digwydd. Nid dyma beth mae ‘heb ei brofi’ yn ei ddweud.

Yr unig beth mae ‘heb ei brofi’ yn ei olygu yw y gallem fod â fersiwn gan blentyn, fod gennym fersiwn gan aelod o’r staff ac, yn anffodus, does dim tyst arall, dim teledu cylch cyfyng, does dim byd arall y gellir ei ddefnyddio i brofi pa fersiwn sydd yn fwyaf tebygol o fod wedi digwydd.

Felly, mae’n dod yn ôl i’r cyflogwr. Fel y cyflogwr, beth sy’n rhaid i’r ysgol benderfynu, yw gweithio allan os oes gweithredu disgyblaethol. Felly, er fod yr achos ddim wedi symud ymlaen o ran diogelu, o bosib, efallai y bydd gweithdrefnau disgyblaethol sydd angen eu hystyried oherwydd gweithrediadau’r aelod staff yna.

Ac, yna, maent yn eich cymharu i God Ymddygiad Cyngor y Gweithlu Addysg, i’r Polisi Ymddygiad Staff neu eu Cod Ymarfer, y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n dibynnu beth yw’r honiad. Os yw’r ysgol yn penderfynu eu bod yn mynd i lawr y llwybr ‘disgyblaethol’, oherwydd yr adroddiad Clywch y soniais amdano ynghynt, mae’n rhaid i ymchwiliad gymryd lle, oherwydd bod pryderon wedi bod ynghylch diogelu. Felly, ni all fod yn ymchwiliad mewnol ysgol yn unig. Mae’n rhaid iddo fynd yn allanol ar y pwynt hwn.

Template File: single.php