Jane Ashman Logo

Allegations Against Staff – 5. Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae’n rhaid i gyflogwyr ddilyn Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru ym mhob achos ble mae honiad bod plentyn sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg:

  • Wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg, neu y gallai fod wedi gwneud hynny
  • O bosibl wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg neu sydd ag effaith uniongyrchol ar y plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg
  • Wedi ymddwyn tuag at y plentyn, plant neu oedolion sy’n wynebu risg mewn ffordd sy’n awgrymu ei fod yn anaddas i weithio gyda phlant ac oedolion ill dau

Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu beth all fod yn y categori “anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg”. Dylai’r cyflogwr ystyried a yw testun yr honiad neu’r pryder:

  • Wedi bod yn destun camau cyfreithiol sy’n awgrymu perygl o niwed i blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg
  • Wedi achosi niwed neu niwed posibl i’r plentyn neu’r oedolyn mewn perygl a bod perygl yn yr amgylchedd gwaith, gwirfoddoli neu ofalu
  • Wedi mynd yn groes neu’n parhau i fynd yn groes i Bolisi a Gweithdrefnau Diogelu’r asiantaeth
  • Wedi methu deall neu gydymffurfio â’r angen am ffiniau personol a phroffesiynol eglur yn y gweithle
  • Wedi ymddwyn yn eu bywyd personol neu mewn ffordd arall a allai roi plant ac oedolion mewn risg o niwed
  • Wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi tanseilio’r ymddiriedaeth a roddwyd ynddynt yn rhinwedd eu swydd
  • Plant sy’n destun Gweithdrefnau Amddiffyn Plant
  • Yn meddu ar gyfrifoldebau gofalu am oedolyn sy’n destun Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion

Template File: single.php