Allegations Against Staff – 4. Esiamplau o gamymddygiad
Mae’r canlynol yn esiamplau o ymddygiad sydd wedi arwain i ymchwiliadau gan Baneli Addasrwydd i Ymarfer CGA, a chyrraedd y trothwy i adrodd i’r Gwasanaethau Plant o dan Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru (gweler yr adran nesaf):
Mae cofrestrydd wedi:
- Mynychu’r gweithle tra dan effaith alcohol ac wedi yfed alcohol ar eiddo’r ysgol.
- Cusanu disgybl gwrywaidd ar, neu o gwmpas, yr ên
- Yn eu hamser eu hunain, y tu allan i’r ysgol, wedi poeri at berson, wedi mynd ymlaen i frathu person, wedi tynnu gwallt person a chicio a stampio ar berson
- Ymddwyn mewn modd anaddas ac/neu amhroffesiynol tuag at gydweithwyr trwy ddweud neu eu galw’n ‘f*****t’ a ‘psycho b***h’
- Wedi tapio cydweithiwr ar eu pen-ôl
- Cadw amser gwael gan gyrraedd yn hwyr a gadael y safle’n fuan
- Gadael 3 disgybl cynradd (5 oed) heb oruchwyliaeth y tu allan i doiled tra ar ymweliad ysgol
- Ymateb i ddysgwr yn crio trwy ddweud “he’s doing my f****** head in, all he’s done is cry.”
- Pan ofynnwyd iddynt os hoffai disgybl D ffon fara (‘breadstick’), dywedodd “does a bear s*** in the woods?”
- Peledu dysgwr gyda negeseuon testun, galwadau a negeseuon llun personol oedd yn cynnwys sylwadau rhywioledig ac amhriodol.
- Ymddwyn fel ‘cyfrinachwr’ i ddysgwr o dan 16 oed ac, unwaith roedd dibyniaeth emosiynol wedi ei sefydlu, dechreuasant berthynas rywiol
- Rhannu gwybodaeth bersonol gyda dysgwr a thrafod dysgwyr eraill yn ogystal â chydweithwyr tra’n cynnal perthynas rywiol, yn aml yng nghartref y cofrestrydd
- Prynu alcohol ar gyfer dysgwyr ac wedi cyfnewid nifer fawr o negeseuon amhriodol gyda hwy drwy ystod o apiau cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud wrthynt i’w dileu bob tro
- Ymweld â pherson ifanc a’u rhieni yn eu cartref ar nifer o achlysuron heb unrhyw reswm dilys nac awdurdod. Roedd hyn er mwyn ennill eu hymddiriedaeth ac yn ffordd i allu datblygu perthynas gyda’r dysgwr
- Cymdeithasu gyda dysgwyr (yn ystafell wely dysgwr) ac yfed alcohol gyda nhw yn ystod taith addysgiadol
- Bwlio, aflonyddu ac ymosod ar blentyn yn gorfforol yn systematig mewn lleoliad ysgol arbennig
- Gweiddi ar a hambygio plant oed meithrin ar nifer o achlysuron, gan achosi cleisio a chodi ofn ar y dysgwyr
- Bychanu pobl ifanc yn rheolaidd trwy wneud sylwadau amhriodol amdanynt, yn cynnwys yn ymwneud â rhyw, hil a maint corfforol. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r defnydd o ystod o lysenwau dirmygus yn hytrach na’u henwau go iawn
- Ffrwyno plentyn yn amhriodol trwy eu clymu i ddarn o ddodrefn a thapio eu dwylo at ei gilydd a’u ceg ynghau
Gellir dod o hyd i’r wybodaeth gyfredol ar achosion sydd wedi arwain i sancsiynau yma.
Gweithgaredd: Myfyriwch ar yr esiamplau a ddarparwyd gan feddwl pam bod yr ymddygiadau hyn yn broblemus.