Jane Ashman Logo

Allegations Against Staff – 2. Cod Ymddygiad Cyngor Y Gweithlu Addysg

Mae pob gweithiwr proffesiynol addysg yng Nghymru’n ymuno â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), ac yn cytuno i ymlynu i’w Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Mae’r cod wedi ei ddyrannu i 6 prif egwyddor, y gellir eu grwpio i mewn i Ymddygiad Proffesiynol (egwyddorion 1 i 4) ac Ymarfer Proffesiynol (egwyddorion 5 a 6):

Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
  2. yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:
    • gyfathrebu gyda dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
    • defnyddio pob math o ddull cyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
    • sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur
    • cyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu, ystrydebu, a bwlio
    • cynnal ffiniau proffesiynol
  3. yn ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc i annog hyder, grymuso, datblygiad addysgol a datblygiad personol
  4. yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol, ac addysgol:
    • roi buddiannau dysgwyr a phobl ifanc yn gyntaf
    • gweithredu ar unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
    • rhoi gwybod, yn unol â 5.3, am unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
    • bod yn addas i ymarfer, sy’n cynnwys peidio â chael eu hamharu gan alcohol neu unrhyw sylwedd arall
  5. yn rheoli eu hiechyd, eu diogelwch, a’u llesiant personol eu hunain, a’u bod yn ystyriol o iechyd, diogelwch, a llesiant personol eu cydweithwyr
  6. yn dangos parch at gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, sy’n cynnwys herio a/neu roi gwybod am ymddygiad sy’n gwahaniaethu ac unrhyw ymddygiad annerbyniol arall
  7. yn deall bod y Cod yn berthnasol yn syth ar ôl cofrestru, wrth adnewyddu cofrestriad, a thrwy gydol y cyfnod cyflogaeth pan mae’n ofynnol cofrestru gyda CGA, gan gynnwys cyfnodau sefydlu statudol a chyfnodau prawf

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
  2. yn ymddwyn yn onest, yn foesegol, gydag unplygrwydd, yn enwedig o ran:
    • cyllid ac arian yn y gweithle, yn enwedig y rhai sy’n gyfrifol am reoli/dosbarthu cyllid mewn sefydliadau addysg sy’n cael eu hystyried yn fusnesau
    • rhinweddau, profiad, a chymwysterau personol
    • geirdaon, datganiadau sy’n ofynnol (yn enwedig yn gysylltiedig â cheisiadau i gofrestru gyda CGA, a chyflogaeth), ac wrth lofnodi dogfennau
    • asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau
    • eiddo a chyfleusterau eu cyflogwr
    • cyfathrebu gyda CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol neu rybuddiad cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall • eu cyflogwr, ac adrodd unrhyw fater sy’n ofynnol gan delerau ac amodau eu cyflogaeth
    • eu hymddygiad yn y gweithle a thu allan iddo
  3. yn ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu
  4. yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â bod yn aelod o’r proffesiwn addysg

3. Cydweithio

Mae cofrestreion:

  1. yn parchu, yn cynorthwyo, ac yn cydweithio gyda chydweithwyr, dysgwyr, pobl ifanc ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau
  2. yn rhannu profiad a gwybodaeth i helpu eu hunain ac ymarferwyr eraill i ddatblygu a chynnal ymarfer gorau (gweler Adran B)
  3. yn ceisio datblygu a chynnal perthnasau gwaith proffesiynol gyda rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr, a rhanddeiliaid eraill
  4. yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysgu dysgwyr a phobl ifanc

4 . Arweinyddiaeth

Mae cofrestreion â chyfrifoldebau arwain a rheoli:

  1. yn ymgorffori’r Cod ac yn arwain trwy esiampl
  2. yn hyrwyddo ac yn annog diwylliant sefydliadol cadarnhaol o barch, unplygrwydd, atebolrwydd, a phroffesiynoldeb
  3. yn rheoli staff, adnoddau a risg yn effeithiol, gan gynnwys er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn gallu cael at y cymorth, yr hyfforddiant, a’r oruchwyliaeth angenrheidiol i fodloni’r safonau disgwyliedig
  4. yn atebol am benderfyniadau ac am ddirprwyo tasgau

5. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn gwybod y safonau proffesiynol sy’n berthnasol i’w proffesiwn/sector penodol mewn addysg, ac yn eu bodloni, drwy gydol eu gyrfa
  2. yn gwybod, yn deall, ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
  3. yn gwybod, yn deall, ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
  4. lle y bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor, ac arweiniad, ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol

6. Dysgu Proffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn dangos ymrwymiad cyffredin i’w dysgu proffesiynol parhaus drwy fyfyrio am eu hymarfer a’i werthuso, gan sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol yn gyfoes, a chymryd camau i wella’u hymarfer lle y bo angen

Yn ogystal â Chod y CGA, mae’n rhaid i ysgolion rannu eu polisi ymddygiad staff gyda staff yn ystod eu hanwythiad.

Template File: single.php