Jane Ashman Logo

Rolau a Chyfrifoldebau

Cyflwyniad i'r Cwrs

Gall diogelu fod yn faes cymhleth sy’n cynnwys llawer o bobl o wahanol asiantaethau. Yn y modiwl hwn, edrychwn ar y rolau o fewn y lleoliad ysgol (yn cynnwys llywodraethwyr) a’r rolau o fewn yr awdurdod lleol. Yn ystod y modiwl hwn, byddwn yn ystyried y rhain mewn perthynas ag unrhyw bryderon sydd gennym, boed nhw’n ymwneud â phlentyn neu oedolyn.

Cyn dechrau ar y modiwl hwn, fe’ch cynghorir i gwblhau’r modiwl Deddfau ac Arweiniad, sy’n cwmpasu’r deddfau a’r arweiniad y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â hwy a’r diffiniad o blentyn.

Ar ddiwedd y modiwl hwn, byddwch yn gwybod:

  • Beth yw eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi o ran diogelu
  • Pa rolau penodol eraill sy’n bodoli o fewn sefydliad addysgiadol ar gyfer diogelu
  • Pa rolau sy’n bodoli o fewn yr awdurdod lleol a’u cyfrifoldebau
  • Sut i uwchgyfeirio (‘escalate’) os ydych chi’n teimlo nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi eu cymryd gan yr ysgol na’r awdurdod lleol.
Dechrau'r Cwrs

Cynnwys y Cwrs

Template File: single-ir_course.php