Jane Ashman Logo

Child Protection Conferences – 11. Cyfarfodydd grwpiau craidd

Fel y soniwyd, mae cyfarfodydd grŵp craidd yn digwydd yn fisol yn fras. Fel staff, dylem ddarparu adborth ar yr hyn rydym yn ei weld a’r hyn mae’r plentyn yn ei ddweud wrthym.

Mae hyn yn galluogi’r ymarferwyr i fesur cynnydd yn erbyn y cynllun, i gydnabod yr hyn mae’r teulu’n ei wneud yn dda, ac i adnabod ble mae angen cefnogaeth ar gyfer newid.

Mae’n rhaid dylunio cefnogaeth i uwchsgilio rhieni yn hytrach na gwneud y tasgau ar eu rhan. Fel arall, pan ddaw’r cynllun i ben, efallai y bydd teuluoedd yn cael trafferth i ddal at y newidiadau os nad yw’r ymddygiadau newydd a ddymunir wedi eu gwreiddio.

Mae’r grŵp craidd yn monitro cynnydd ac yn dal yr ymarferwyr ac aelodau’r teulu yn atebol. Cyn yr adolygiad o’r gynhadledd amddiffyn plentyn, dylai’r grŵp craidd wybod yn barod os yw’r plentyn yn debygol o ddod oddi-ar, neu aros ar, y Gofrestr Amddiffyn Plant – ac os ydynt yn debygol o aros arni, yr hyn sydd angen newid cyn y gynhadledd nesaf.

Template File: single.php