Child Protection Conferences – 8. Deilliannau Posibl o’r Gynhadledd Amddiffyn Plentyn
Mae yna ddau deilliant posibl:
- Nid yw’r plentyn dan risg parhaus o niwed ond efallai bod ganddynt anghenion am ofal a chymorth.
- Os yw’r mwyafrif o ymarferwyr yn dod i’r penderfyniad hwn, ni fydd y plentyn yn cael eu gosod ar y Rhestr Amddiffyn Plant gan na fyddent wedi cyrraedd y trothwy yma.
- Anogir y teulu i barhau gydag asesiad llesiant i benderfynu pa ofal a chymorth allai hyrwyddo llesiant y plentyn orau.
- Gall yr asesiad hwn gymryd hyd at naw wythnos ac mae’n wirfoddol. Gallai’r rhieni ddewis peidio rhoi caniatâd (eglurir yr hawl yma sydd gan y rhiant yn y modiwl Lefel yr Angen).
- Mae’r plentyn yn profi niwed neu mewn risg o niwed, ac felly wedi eu cofrestru ac yn destun Cynllun Diogelu Gofal a Chymorth.
- Os cyrhaeddir y penderfyniad hwn, gosodir enw’r plentyn ar y Rhestr Amddiffyn Plant.
- Llunnir Cynllun Diogelu Gofal a Chymorth drafft.
- Mae’n rhaid cofrestru enw’r plentyn o dan un o’r categorïau cam-drin a ganlyn: Esgeulustod, Corfforol, Rhywiol, Emosiynol, neu Ariannol.
Nod y cynllun yw i:
- Sicrhau diogelwch y plentyn ac atal niwed pellach
- Hyrwyddo llesiant a datblygiad y plentyn
- Cefnogi’r teulu (a’r teulu ehangach) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, ble mae hyn er budd gorau’r plentyn
Bydd y cynllun yn cael ei lunio yn y Grŵp Craidd cyntaf.