Child Protection Conferences – 7. Yn ystod y Gynhadledd Amddiffyn Plentyn
Mae pob ymarferydd yn rhannu copi o’u hadroddiad ac yn crynhoi ei gynnwys. Gall pawb sy’n bresennol ofyn cwestiynau i unrhyw un arall yn y gynhadledd.
Mae pob gwybodaeth yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Pwrpas yr wybodaeth yw i helpu ymarferwyr i benderfynu os yw’r plentyn yn parhau i fod dan risg parhaus o niwed sylweddol ac angen ymyrraeth aml-asiantaeth, a ddarperir drwy Gynllun Diogelu Gofal a Chymorth a chofnodi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.
Fideo – Proses Y Gynhadledd Achos Amddiffyn Plentyn
O’ch blaen chi, ar y sgrin, mae’r camau sy’n rhan o’r broses ar gyfer y Gynhadledd Achos Amddiffyn Plentyn, ac maent yn eithaf tebyg ar gyfer y Gynhadledd Achos gychwynnol ac hefyd y Cynadleddau Adolygu Achos. Fel y gwelwch, mae’r camau cyntaf yn crynhoi’r wybodaeth sydd o fewn yr adroddiadau. Felly, byddai eich PDD yn crynhoi’r hyn sydd o fewn eu hadroddiad. Ni fyddant yn ei ddarllen i gyd.
Byddant eisoes wedi rhannu hyn gyda’r rhieni, o leiaf 48 awr cyn y Gynhadledd Achos, ac hefyd yn cael hanner awr cyn y Gynhadledd i ddarllen adroddiadau gweithwyr proffesiynol eraill hefyd. Ac mae hyn yn rhoi’r amser iddynt i fformiwleiddio: Oes gen i unrhyw gwestiynau rwyf am eu gofyn? Oes gen i unrhyw bwyntiau rwyf eisiau wedi eu hegluro? Ac yn y blaen.
Beth sy’n rhaid i ni ei gofio pan awn ni i Gynhadledd Achos yw mai efallai nad teulu sy’n achos risg i’r teulu. Efallai bod y teulu’n ffactor amddiffynnol cryf iawn. Gallai’r risg ddod o ddiogelu cyd-destunol. Felly mae ‘diogelu cyd-destunol’ yn edrych ar y risgiau y tu allan i’r cartref.
Gallai hyn fod yn bethau fel llinellau cyffuriau, gallai fod yn gamfanteisio yn rhywiol ar blentyn, gallai fod yn fagu perthynas amhriodol ar-lein. Unrhyw un o’r agweddau hynny, felly mae’n hynod bwysig nad ydynt yn gweld y teulu fel y prif risg i’r plentyn yna bob amser. Ac mae’n rhaid i ni ystyried, fel dywedais i, y gallent fod yn ffactor amddiffynnol cryf iawn.
Beth rydyn ni’n ei wneud wedyn yw, ei fod yn mynd o gwmpas y bwrdd.
Mae pawb yn rhannu eu hadroddiadau a bydd pawb yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau, i ddarganfod beth yw’r gwir effaith ar y plentyn, yn hytrach na gwneud datganiad yn unig, sut mae hynny’n effeithio ar y plentyn? Ac eto, cael eglurder ar hynny. Felly, fel dywedais i, rydym yn edrych drwy’r amser ar gryfderau, y ffactorau amddiffynnol, yr effaith ar y plentyn.
Unwaith mae hyn wedi mynd o amgylch pawb sydd wrth y bwrdd, ac mae pawb wedi gallu gofyn y cwestiynau sydd ganddynt, yna daw i wneud penderfyniadau. O fewn y gwneud penderfyniadau, mae gan pob asiantaeth ei phleidlais ei hun, ac felly mae’n rhaid i chi wneud y penderfyniad hwnnw ar sail yr hyn rydych wedi ei glywed, ar sail y ffeithiau rydych wedi eu clywed heddiw
Felly, rydych yn gweithio allan, ydych chi’n credu bod y plentyn mewn risg neu’n profi cam-drin neu esgeulustod? Os rydych chi, yna eich penderfyniad fydd i’w cofrestru. Os nad yw’n cyrraedd y trothwy, yna fe allech fod yn ystyried Cynllun Gofal a Chymorth.
Nawr, dyma’r ardal, os ewch chi’n ôl i’r modiwl ‘Lefel yr Angen’ y gwnaethom siarad amdano, yn y rhan oren ble rydyn ni’n cefnogi. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae angen caniatâd y rhieni arnom. Ond ni allwn eu rhoi ar y gofrestr, neu eu gorfodi i fynd ar y gofrestr, oherwydd ein bod yn meddwl na fyddai rhiant yn rhyngweithio gyda ni. Mae’r penderfyniad hwnnw ar un sail yn unig: A yw’n cyfarfod y trothwy ar gyfer yr agwedd niwed sylweddol hwnnw ai peidio?
Unwaith mae penderfyniad wedi ei wneud eu bod yn cael eu cofrestru, yna mae o dan un o bum categori. Anelwn am un, a bydd rhai awdurdodau yn eich caniatáu i gofnodi o dan fwy nac un. Y meddwl y tu cefn i gofnodi o dan un yw, os gallech gael at y ffactor sylfaenol go iawn, a gweithio ar hwnnw, yna bydd y sefyllfa’n gwella.
Gwyddom os yw plentyn yn cael eu cam-drin yn gorfforol, y bydd yn effeithio arnynt yn emosiynol. Ond, os nad ydych yn mynd i ddatrys y cam-drin corfforol, a gweithio ar y rhan emosiynol yn unig, yna ni fydd y sefyllfa’n gwella. Felly rydym yn ceisio darganfod beth yn union yw’r mater craidd a gweithio ar hynny fel rhan o’r cynllun.
Felly, cofrestriad, fel dywedais i, fe all fod o dan y pum categori, ond rydym yn anelu i ddewis un, dau ar y mwyaf, yn y fan yna. Mae’r Cynllun Diogelu, Gofal a Chymorth yn cael ei lunio yn y fan yma, ac wedyn, fel dywedais i, mae’n cael ei lenwi yn y grwpiau craidd y byddwn yn eu mynychu wedi hynny. Ac mae’n rhaid i’r grŵp craidd hwnnw gymryd lle o fewn deg diwrnod gwaith.
Felly bydd y cynllun yn dweud wrthym beth sydd angen ei newid, pa gefnogaeth sydd ei hangen. Beth sydd angen digwydd gydag asiantaethau, beth yw eu cyfrifoldebau, beth yw cyfrifoldebau’r teulu, os oes rhywbeth ar gyfer y plentyn (mae hynny’n dibynnu ar eu hoedran), felly edrych ar y ffactorau hynny.
Beth sydd angen ei newid, a sut y gallwn gefnogi hynny i ddigwydd. Ac mae hyn oll yn ymwneud â chefnogi, oherwydd pe baem yn ei wneud ar gyfer y rhieni neu ar gyfer plentyn, nid yw hynny’n mynd i ddechrau newid mewn ymddygiad, nid yw hynny yn mynd i fod yn ddatrysiad tymor-hir.
Beth fydd yn digwydd yw, byddant yn dod oddi-ar y gofrestr, gan ddweud bod yr ymddygiad yn digwydd oherwydd ei fod yn arferiad, ac wedyn, unwaith y maent wedi dod oddi-arno, cyn pen dim, byddem yn edrych i’w rhoi yn ôl eto. Felly mae’n rhaid ymgorffori’r newidiadau yn y teulu.