Child Protection Conferences – 1. Ein Rôl fel Staff
Ni fydd y rhan fwyaf o staff ysgol yn mynychu cynhadledd achos neu grŵp craidd. Er hynny, mae’n bwysig ein bod ni fel staff yn deall beth yw’r cyfarfodydd hyn a’n rôl ni ein hunain mewn perthynas â nhw.
Mae angen i ni fel staff fod yn ymwybodol o’r broses a’r hyn y gall ei olygu i blant sy’n ei phrofi. Er enghraifft, efallai y byddwch yn sylwi bod ymddygiad plentyn yn newid o gwmpas adeg cynhadledd adolygu amddiffyn plentyn, neu eu bod yn absennol o wersi oherwydd eu bod yn mynychu cynhadledd neu grŵp craidd. Trwy ddeall ynghylch beth mae’r cyfarfodydd hyn, gall staff helpu disgyblion i ddeall eu teimladau a chynnig cefnogaeth.
Fideo – mynd trwy’r broses cyn cyrraedd y gynhadledd.
Mae’n bwysig, fel staff, ein bod yn deall y camau sydd wedi eu cymryd cyn i’r plentyn gael eu cofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Felly, fel y gwelwch ar y sgrin, mae’n dechrau gyda’r pryder diogelu o fewn ein hysgolion fydd yn cael ei nodi gan staff, naill ai drwy system electronig megis CPOMS neu My Concern, neu drwy’r system bapur, a hynny’n cael ei basio ymlaen i’ch PDD.
Felly, bydd y PDD wedyn yn gweithio allan, a yw hyn yn cyrraedd y trothwy am adroddiad plentyn mewn risg i’r gwasanaethau plant, neu a oes angen i ni ystyried cynnig cefnogaeth i’r teulu, ac os edrychwch yn ôl i’r modiwl ‘Lefel yr Angen’, dyma ble rydym yn sôn amdano ar y dashfwrdd.
O hynny, bydd y PDD yn gwneud yr adroddiad i’r gwasanaethau cymdeithasol. Iddo gyfri fel adroddiad, mae’n rhaid iddo fod ar ffurflen bapur ond, yn gyffredinol, beth welwn ni yw y bydd y PDD yn cysylltu gyda’r gwasanaethau plant o flaen llaw, yn cael trafodaeth, yn enwedig os oes ganddynt bryderon difrifol.
Felly gall pethau ddechrau symud yn y cefndir ar gyfer trafodaethau rhwng y gwasanaethau plant a’r heddlu. Pan mae’n eu cyrraedd nhw, byddant yn edrych ar yr wybodaeth honno, byddant hefyd yn edrych ar yr wybodaeth sydd ganddynt ar eu system hwy, efallai’n gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol gan yr heddlu, er mwyn gallu gwneud penderfyniad cychwynnol.
Nawr, gyda’r penderfyniad cychwynnol, mae’n rhaid iddynt ei wneud o fewn 24 awr, a’r penderfyniad cychwynnol yw gweithio allan gyda’r tri penderfynydd sydd gennym. Un yw nad oes unrhyw bryder fod y plentyn o dan unrhyw risg o gwbl. Dyna un penderfynydd – ni fydd unrhyw gamau gweithredu pellach yn digwydd yn y fan yna. Yr ail benderfynydd yw, oes, bod pryder, ond nid yw’n cyrraedd y trothwy o blentyn mewn risg, h.y. eu bod yn profi neu mewn risg o gamdriniaeth ac ag angen am ofal a chymorth. Y trydydd penderfynydd yw bod gennym bryderon am y plentyn a’u bod yn cyrraedd y trothwy o blentyn mewn risg. Os mai dyma’r achos, yna mae’n symud i lawr y cam nesaf ar yr ochr yma sydd naill ai’n drafodaeth strategaeth neu gyfarfod.
I’w galw’n cyfarfod strategaeth, mae’n rhaid iddi gynnwys y gwasanaethau plant neu’r heddlu.
Y syniad yn y fan yma yw ein bod hefyd yn cynnwys asiantaethau eraill, felly gallai eich PDD gael eu gwahodd i’r cyfarfod hwn, ac efallai y byddant yn gofyn i chi, funud olaf, “Os gwelwch yn dda, oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y plentyn yma?”
Oherwydd efallai mai nid yr ysgol sydd wedi adrodd i’r gwasanaethau plant, felly nid ydym yn ymwybodol bod angen i ni gasglu’r wybodaeth nes mae’r alwad ffôn honno’n dod. Felly, os gwelwch yn dda, sicrhewch eich bod yn ateb y ceisiadau hynny gan eich PDD.
Eto, byddant yn edrych yno ar y tri penderfynydd, os mai’r drafodaeth yw eu bod yn dal i bryderu ac yn meddwl ei fod yn cyrraedd y trothwy, gelwir hynny’n Adran 47. Felly os ewch chi’n ôl i’r modiwl ‘Deddfau ac Arweiniad’, fe siaradom yn y fan yna am y Ddeddf Plant, dyma Adran 47 o’r Ddeddf Plant, dyma o ble daw yr enw.
Gwneir yr ymholiadau hyn, felly, wedi 10 diwrnod gwaith ble mai’r syniad yw i gaffael cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus. Gyda hyn, bydd naill ai’n asiantaeth unigol – y gwasanaethau plant ar eu pen eu hunain, neu fe allai fod yn asiantaeth ar y cyd gyda’r heddlu hefyd.
Eto, wedi hynny, bydd yn mynd yn ôl i cyfarfod strategaeth ac yn edrych eto ar y penderfynyddion. Os mai’r penderfyniad fydd bod y plentyn yn dal i gael eu hystyried mewn risg a’n bod ni’n pryderu eu bod naill ai’n profi neu mewn risg o brofi camdriniaeth, a bod ganddynt angen am ofal a chymorth, yna bydd Cynhadledd Amddiffyn Plentyn yn cychwyn.
Er mwyn gwneud hynny, mae ganddynt 3 wythnos, hyd at 15 diwrnod gwaith, cyn bod rhaid cynnal y gynhadledd. Felly, eto, mae’r rhain yn amserlenni llym, y mae’n rhaid i ni gadw atynt. Felly, os yw eich PDD yn gofyn i chi am wybodaeth, os gwelwch yn dda, sicrhewch eich bod yn cwblhau’r wybodaeth honno cyn gynted â phosibl i helpu gyda’r broses hon.