Jane Ashman Logo

Disclosure – 12. Fideo o’r hyn ddywedodd pobl ifanc

Transcript

Felly, gobeithio, wrth i ni greu diwylliant o ddiogelu, ein bod ni yn gallu gofyn y cwestiynau hynny, a’u dechrau gyda, “Rwyf wedi sylwi ar hyn”, rydym am greu’r cyfleoedd i blant ac oedolion i allu dod a siarad gyda ni. Beth mae pobl wedi ei ddweud yn dilyn eu datgeliadau, beth maent eisiau o ddatgeliad, gallwch weld rhai ar y bwrdd yma, yw “gwrandewch ar yr hyn sydd gennym ni i’w ddweud.”

Nawr, efallai ein bod yn credu ein bod ni’n gwrando ac yn cymryd popeth maent yn ei ddweud i mewn, ond beth rydym yn tueddu i’w weld yw ein bod yn cymryd allan o’r sgwrs yr hyn yr ydym ni eisiau ei glywed. Mae’n rhaid i ni sicrhau mai’r hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei ysgrifennu, yw’r hyn mae’r plentyn neu’r oedolyn wedi ei ddweud wrthym.

Dyna pam, os rydym wedi cymryd y nodiadau hynny, ein bod yn dangos y nodiadau iddynt ac yn dweud, “Edrych, ai dyma beth roeddet yn ei ddweud wrthyf?” Os nad ydym wedi cymryd nodiadau, yna rydym yn ei ail-adrodd yn ôl yn ystod y casgliad, neu ein bod ni’n aralleirio yr hyn y maent wedi ei ddweud ac yn gwneud yn siŵr ein bod wedi clywed yr hyn y maent wedi ei ddweud.

Mae dweud wrthynt beth sy’n digwydd nesaf mor bwysig, ond nid yn unig dweud wrthynt beth sy’n digwydd nesaf – cynnwys amserlenni hefyd rwy’n meddwl. Oherwydd, eto, efallai eu bod nhw’n meddwl pan rydych yn dweud, “Rwy’n mynd i siarad gyda’r PDD”, eich bod yn eu gadael ar unwaith i fynd i siarad gyda’r PDD. Efallai nad yw’r PDD yn eu swyddfa, efallai na fyddwch yn gallu cael gafael arnynt am hanner awr arall, awr arall.

Felly, mae’n rhaid i ni fod yn realistig gyda’r amserlenni a sicrhau ein bod yn adrodd yn ôl. Felly, os rydym wedi dweud ein bod ni am ei roi ar system gofnodi, boed hynny’n CPOMS, My Concern, neu’n system bapur, a’n bod ni wedi gwneud hynny, gallwn adael iddynt wybod ein bod ni wedi gwneud hynny. Os rydym wedi dweud wrthynt ein bod am siarad gyda’r PDD, unwaith rydym wedi gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn ôl atynt, dweud wrthynt beth sy’n digwydd, os rydych chi’n gwybod. Os nad ydych chi’n gwybod, yna, eto, “Unwaith fyddai’n gwybod dof yn ôl atat a siarad gyda thi.”

Beth sy’n aros yn fy meddwl yn y fan yma, pan rwy’n meddwl am y pwynt hwn, oedd rhaglen ddogfen a wnaethpwyd gan Mo Farrah. I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, cafodd Mo Farrah ei fasnachu i mewn i’r wlad yma fel caethwas domestig. Cafodd fynd i’r ysgol wedyn. Roedd ei fywyd yn anhrefnus, ac fe amlygodd hynny ei hun eto yn yr ysgol, a phan ddatgelodd, i’w athro addysg gorfforol, roedd ganddo ymagwedd afrealistig ynghylch, neu efallai y dylwn i ddweud golygwedd, o’r hyn oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Daeth i’r ysgol y diwrnod nesaf gyda’i fagiau wedi eu pacio ac yn meddwl y byddai’n gadael.

Felly, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn rheoli disgwyliadau o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd a beth yw’r tebygolrwydd o hynny. Felly, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn rheoli disgwyliadau o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd a beth yw’r tebygolrwydd o hynny. Felly, eto, ble mae’n dweud, “Gwna yr hyn yr wyt ti’n ei ddweud yr wyt am ei wneud”, ni allwch addo pethau, ar ran yr Heddlu, y gwasanaethau plant, ar ran cwnselwyr, ar ran unrhyw un arall. Ni allwch hyd yn oed addo beth mae’r PDD am ei wneud. Yr unig beth y gallwch ei ddweud yw’r hyn yr ydych chi eich hun am ei wneud, sef, “Rwy’n mynd i adrodd i’r PDD. Rwy’n mynd i’w gofnodi ar y system gofnodi.”

Os, fel rhan o hynny, eu bod nhw wedi dweud yr hoffent gael gweld cwnselydd, gallwch eu rhoi ar y rhestr aros  ar gyfer cwnselydd neu gallwch siarad gyda’r person sy’n rheoli’r rhestr honno.

Beth allwch chi ddim ei wneud yw ni allwch addo hynny iddynt. Ni allwch addo y bydd yr Heddlu’n dod ac yn eu cyfweld, neu y bydd y gwasanaethau plant yn dod i’w gweld.

Nid ydych yn gwybod. Efallai na fyddent yn gwneud hynny. Efallai y byddent yn dewis llwybr arall yn hytrach na hynny. Felly, os gwelwch yn dda, gwnewch yn siŵr pan rydych yn addo pethau eu bod o fewn eich rheolaeth chi. Ac, eto, peidiwch a dweud rhywbeth na allwch ei gyflawni. Oherwydd, eto, beth maent wedi ei wneud yw dod atoch chi oherwydd eu bod yn ymddiried ynoch.

Mae unrhyw beth nad ydym yn ei wneud, unrhyw beth nad ydym yn ei gyflawni, rydym, yn araf, yn erydu’r ymddiriedaeth yna sydd ganddynt ynom. Ac wedyn, fel dywedais i, mae’n gwneud y sefyllfa’n llawer gwaeth iddyn nhw. Eto, roedd “rho dy hun yn fy esgidiau i” yn sylw a wnaed ganddynt, a gall hyn hefyd fod yn llawer anoddach i’w wneud. Ac yn enwedig, fel dywedais i, pan rydym wedi gweld plentyn mewn ffordd arbennig hyd hynny, heb unrhyw syniad o’r hyn oedd yn digwydd, ac nawr mae gennym hyn. Ond, eto, meddwl amdano o’u safbwynt nhw. Nhw yw’r arbenigwyr yn yr hyn sy’n digwydd.

Rydym angen eu grymuso, rhoi’r celfi iddynt trwy ddweud, “Beth hoffet ti ei wneud nesaf? Ble wyt ti eisiau mynd ar ôl datgelu?” Pethau felly.

Ac wedyn yr iaith y corff negyddol. Weithiau, nid iaith y corff yn unig, gallai fod y ddesg yr ydych yn ei rhoi yn y ffordd, neu’r ffordd rydych chi’n eu trin wedyn. Eto, pan ddarllenais i hyn, meddyliais yn ôl i Paul Stewart, ac rwy’n cofio gofyn i Paul Stewart, gan nad oedd wedi datgelu am dros 40 mlynedd, a phan wnaeth hynny roedd yn teimlo bod pobl yn ei drin yn wahanol rŵan. Ac rwy’n cofio gofyn, “wrth edrych yn ôl, fyddech chi wedi datgelu ynghynt?” a dywedodd, “Na”, oherwydd bod pobl yn ei drin yn wahanol rŵan.

Nid oedd bellach yn bêl-droediwr oedd wedi chwarae i Loegr, oedd â thri chap i Loegr, oedd wedi chwarae i ac ennill y Gwpan FA gyda Tottenham Hotspur, wedi chwarae i Lerpwl ac yn y blaen. Erbyn hyn, ef oedd y pêl-droediwr oedd wedi cael ei gam-drin gan ei hyfforddwr.

Felly nid yr iaith y corff negyddol yn unig, mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn eu gweld wedyn. Felly mae ychydig o bethau yn y fan yma. Ond beth mae oedolion sydd wedi goroesi yn ei ddweud wrthym yw fod hyd yn oed yr ychydig bach yna o siarad gyda rhywun wedi helpu. Ac mae angen i ni gadw hynny yn y cof. Nid ydym yn ‘ddatryswyr’, nid ydym yn rhywun a all sortio popeth allan, chwifio ffon hud ac y bydd popeth yn berffaith.

Ond beth gallwn ni ei wneud yw i gefnogi’r unigolyn yna, beth sydd ei angen arnynt ar y pryd, eu cefnogi gyda hynny, efallai eu bod yn cael trafferth gyda’u gwaith ysgol, gyda chanolbwyntio. Efallai nad yw’r unigolyn ddim ond angen rhywun i siarad gyda hwy ar rhyw bwynt. Gallwch eu cefnogi gyda phethau felly. Fel dywedais i, ystyriwch bethau felly.

Template File: single.php