Disclosure – 10. Llais
Yn ystod datgeliad, mae’n bwysig ein bod yn defnyddio iaith, goslef, traw, sain a chyflymder priodol.
Pan rydym yn nerfus, tueddwn i gyflymu, i lenwi bylchau yn y sgwrs ac i’n llais fod â thraw uchel.
Cofiwch – mae bylchau yn y sgwrs yn iawn. Mae eu caniatáu yn golygu bod gan y datgelydd amser i brosesu yr hyn maent yn ei ddweud, yn ogystal â gweithio allan beth arall maent eisiau ei rannu neu ddim eisiau ei rannu ar y pryd. Mae’n bwysig ein bod yn mynd ar gyflymder yr unigolyn.
Ond, gwiriwch gyda nhw’n aml, e.e. “Wyt ti’n iawn?” “Rwy’n deall bod hyn yn anodd iawn i ti ond rwyt ti’n gwneud yn dda iawn” – eu helpu i agor i fyny trwy ddangos fod ots gennych.
Cofiwch y gall trawma effeithio ar gof unigolyn a’u hatgof o ddigwyddiadau. Mae’n bwysig peidio cwestiynu unigolyn os yw’r manylion bychain yn eu stori yn newid wrth iddynt ei dweud (er enghraifft, os yw’r diwrnod maent yn sôn amdano’n newid o ddydd Mawrth i ddydd Iau).