Jane Ashman Logo

Disclosure – 8. Gofyn Cwestiynau

Mae adegau ble bydd angen, efallai, i chi ofyn cwestiwn er mwyn gloywi’r wybodaeth a roddir gan ddatgelydd.

Wrth ffurfio cwestiwn, mae’n hanfodol cofio y dylem ofyn am y wybodaeth yr ydym ANGEN  ei wybod yn unig yn hytrach na’r wybodaeth yr ydym EISIAU ei wybod.

Rydym angen gallu gweithio allan

  1. os oes cam-drin wedi digwydd, ac  
  2. beth yw’r risgiau presennol, h.y. a ydynt yn byw gyda’r camdriniwr honedig.

Dylai unrhyw gwestiynau rydym yn eu gofyn fod yn gwestiynau agored, e.e. Dywed wrthyf beth ddigwyddodd, esbonia i mi beth ddigwyddodd, disgrifia i mi beth ddigwyddodd.

Os oes gan y plentyn glais, yna bydd angen i ni wybod ym mha gyd-destun y derbyniodd y plentyn y clais a darganfod os oedd y clais o ganlyniad i gam-drin.

Er enghraifft, efallai y bydd plentyn yn datgelu bod rhiant wedi achosi’r clais, ond yn dilyn cwestiynu ymhellach, efallai y byddwn yn darganfod bod y plentyn wedi baglu ac yn mynd i syrthio i lawr y grisiau, ond bod eu rhiant wedi gafael ynddynt ac wedi atal y cwymp. Yn yr enghraifft yma, nid yw’r clais wedi ei achosi gan gam-drin.

Cofiwch, ar gyfer unrhyw gleisiau, mae’n rhaid cwblhau Map Corff o’r cleisiau.

Template File: single.php