Jane Ashman Logo

Disclosure – 3. Diffinio datgelu

Mae’r Centre of Expertise on Child Sexual Abuse (CSA) yn diffinio’r term ‘datgeliad’ fel ‘un person yn cyfleu eu profiad i un arall.’

Fel arfer, pan rydym yn clywed y gair ‘datgeliad’, rydym yn meddwl am rhywun yn adrodd ar lafar am yr hyn y maent wedi ei brofi neu yn ei brofi.

Gobeithio, yn ein lleoliad ni, y byddwn wedi creu diwylliant o ddiogelu ble mae plant ac oedolion yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus i siarad gyda staff. Mewn sefyllfa ddatgelu, y prif bwynt i’w gofio yw i beidio rhoi pwysau ar y datgelydd i siarad gyda chi. Mae angen i ni ddarparu cyfleoedd iddynt i ddechrau sgwrs, yn ogystal â sicrhau eu bod yn gwybod y gallent ddechrau y sgwrs pryd bynnag maent yn barod – nid yw’n fater o un cyfle yn unig. 

Cofiwch y dechreuwyr brawddeg y siaradom amdanynt yn y modiwl arwyddion a dangosyddion “Rydw i wedi sylwi…” Mae hyn yn ddull anfygythiol o agor sgwrs gydag unigolyn ac i roi’r cyfle iddynt i siarad.

Template File: single.php