Disclosure – 1. Rhwystrau i ddatgeliad
Mae nifer o resymau pam na fyddai plant neu oedolion yn datgelu. Dengys yr ymchwil i ni, hyd yn oed os yw plant yn datgelu yn ystod plentyndod, y gall barhau i gymryd 7 mlynedd i wneud hynny. Os ydynt yn datgelu pan yn oedolyn, yna gall gymryd hyd at 27 mlynedd ar gyfartaledd.
Oherwydd hyn, mae’n bwysig ein bod yn deall y rhwystrau a allai fod yn atal unigolion rhag datgelu.
Gweithgaredd
Mae achlysuron ble y gallem ni fod y rhwystr sy’n atal plentyn neu oedolyn rhag datgelu.
- Pa rwystrau o’r math yma ydych chi’n ei feddwl y gallem fod yn eu creu? E.e. rhoi’r argraff mai dim ond yn eu cyrhaeddiad academaidd mae gennym ddiddordeb.
- Pa rwystrau ydych chi’n meddwl a allai ein hatal ni rhag gofyn i blentyn neu oedolyn os ydym yn amau cam-drin neu esgeulustod? E.e. Beth os ydw i’n anghywir?
Atebion posibl (cliciwch iddynt ymddangos)
Os rydym bob amser yn brysur ac ar frys, gallem, yn anymwybodol, fod yn creu rhwystr i blant rhag datgelu trwy roi’r argraff iddynt ein bod wastad yn “rhy brysur” i fod ag amser i wneud beth yr hoffem ei wneud neu i fwynhau hobïau.
Gall y ffordd mae ein hystafell neu swyddfa wedi ei gosod greu rhwystr i ddatgelu. Gall y ddesg fod yn rhwystr, ac fe all lleoliad sy’n rhy ffurfiol wneud pobl yn rhy anghyfforddus i allu datgelu.
Os yw ein drws wastad ar gau, gan orfodi pobl i gnocio cyn dod i mewn, mae hyn yn creu rhwystr corfforol yn ogystal â rhwystr meddyliol i ddatgeliad.
Gall ein pryder ni ein hunain ein hatal rhag dechrau sgwrs sy’n arwain i ddatgeliad – beth os ydan ni’n anghywir? Wrth gwrs, yn gyffredinol, mae’n llawer gwell dechrau sgwrs fel hyn gyda’r risg o fod yn anghywir nac i beidio ei dechrau o gwbl a bod yn gywir. Dyma ble mae’r ymadroddion “Rydw i wedi sylwi…” mor dda, gan nad ydynt yn cyhuddo unrhyw un nac yn dweud eich bod yn meddwl eu bod yn cael eu cam-drin. Maent yn agor sgyrsiau.
Gallai pryder dros faterion diwylliannol a phryder ynghylch cael ein labelu’n hiliol neu’n homoffobig achosi i ni beidio dechrau sgyrsiau, neu i atal eraill rhag dechrau sgyrsiau gyda ni. Y pwynt allweddol i’w gofio yma yw bod diogelu yr un fath i bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu cefndir.
Efallai eich bod yn bryderus ynghylch dechrau (neu bod yn agored i) sgwrs oherwydd profiadau blaenorol o rieni blin yn bygwth tynnu eu plentyn o’r ysgol. Os oedd hyn wedi digwydd, byddai angen adrodd arno i’r PDD er mwyn i unrhyw ysgol newydd posibl gael eu gwneud yn ymwybodol o’r pryderon diogelu.
Efallai y byddwch hefyd yn poeni ynghylch dechrau sgwrs rhag ofn i riant ddod yn ymosodol a threisgar. Wrth gwrs, er mai diogelwch y plentyn sydd o’r pwysigrwydd pennaf mewn sefyllfa o’r fath, mae’n rhaid i ni ystyried ein diogelwch ein hunain hefyd, ac os nad ydych yn teimlo y byddech yn ddiogel mewn sgwrs gyda rhiant, dylech gael sgwrs gyda’r PDD.