Jane Ashman Logo

Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 14. Llinellau Cymorth

Y Camau Nesaf

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am yr hyn y plant yn ei ddweud maent eisiau yn eu gwersi ACRh ac ABaCh, yna ewch i weld fy mlog Beth mae Disgyblion yn ei Ddweud am eu rhaglen ACRh/ABaCh

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ‘HSB’, yna ewch i wefan y Lucy Faithfull Foundation neu darllenwch eu harweiniad Traffic_Light_Guide_Teenager.pdf

Os gwelwch yn dda, rhannwch yr wybodaeth am Report Remove a Shore gydag unrhyw oedolion neu blant yr ydych yn meddwl fyddai â diddordeb.

Os rydych chi’n pryderu

Mae adrannau 128 ac 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd ar oedolyn sydd mewn risg neu blentyn sydd mewn risg.

Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol hon yn berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant. 

O fewn ysgolion, golygai hyn gofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD).

Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn gallu adeiladu llun llawnach o’r sefyllfa.

Llinellau Cymorth

Mae llinell gymorth ychwanegol ar gyfer HSB, sef  llinell gymorth ‘Stop it Now’ y Lucy Faithfull Foundation 0808 1000 900. Mae yna hefyd sgwrsio byw ac e-bost diogel, gyda mynediad iddynt o’u gwefan.

Childline – cefnogaeth 24 awr ar gyfer pobl ifanc, ar y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuo 0800 1111

The Mix – gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed 0808 808 4994

Meic – 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos 080880 23456, gydag opsiynau sgwrsio ar-lein hefyd ar gael. Testun 84001

Galop – i gefnogi pobl LGBT+ 0800 999 5428 help@galop.org.uk

Samaritans – cefnogaeth ar gael 24/7 ffoniwch am ddim ar 116 123, e-bostiwch jo@samaritans.org neu ddefnyddio’r sgwrs ar-lein

NSPCC – 0808 800 5000

National Association for People Abused in Childhood – 0808 801 0331 (Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm, Dydd Gwener: 10am – 6pm, Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau)

Fearless – Cam-drin plant yn rhywiol ac ymddygiad rhywiol niweidiol – Resources | Crimestoppers

Adborth

Feedback is important to us, if you have the time please fill out the form below. We use your feedback to make further improvements to our course content to provide you a better service.

Mae adborth yn bwysig i ni. Os oes gennych yr amser, os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod. Defnyddiwn eich adborth i wneud gwelliannau pellach i gynnwys ein cyrsiau i ddarparu gwell gwasanaeth ar eich cyfer.

https://janeashmansafeguarding.fillout.com/membership-beta

Template File: single.php