Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 11. Pobl Ifanc
Beth sydd gan pobl ifanc i’w ddweud am HSB
Dywedodd y disgyblion beth roeddent am i ysgolion stopio ei wneud, parhau i’w wneud, a’i newid.
Stopio ei wneud
- “ysgubo achosion o dan y mat!”
- “portreadu bechgyn fel yr unig dramgwyddwyr”
- “osgoi’r broblem”
- “rhoi pryd o dafod i ferched am eu sgertiau ond ddim yn addysgu bechgyn”
- “gadael i bobl beidio â chael eu cosbo am wneud drwg”
- “ailadrodd gwersi ar gyffuriau”
Parhau i’w wneud
- “rhoi sylw i arferion LHDT”
- “cael grŵp o ddisgyblion i siarad am y materion hyn”
- “rhoi mwy o ABCh”
- “addysg rhyw”
- “addysgu dynion ynghylch gwrywdod gwenwynig a hyrwyddo diwylliant ble caiff ei ddileu”
- “cael dathliadau Pride”
- “cynnal llawer mwy o wasanaethau a chael amser i siarad amdano ar ôl hynny”
A’i newid
- “siarad am barch”
- “siarad amdano mewn gwasanaethau”
- “cael pobl i siarad â nhw yn gyfrinachol”
- “cael pobl go iawn sydd wedi bod trwy broblemau go iawn i siarad â ni”
- “gwneud beth rydych chi’n ei wneud i’n cefnogi”
- “annog dadleuon a thrafodaethau am aflonyddu rhywiol mewn gwersi”