Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 9. Sut mae pobl ifanc yn profi HSB
Sut mae pobl ifanc yn profi HSB
Ysgrifennwch i lawr y mathau o HSB y mae disgyblion yn dweud y maent yn eu profi’n rheolaidd
Atebion – Cyn gynted yr ydych wedi cael go darllenwch y gwybodaeth yma
Y rhain yw’r prif themâu sy’n gysylltiedig â gweithgaredd ar-lein fel y nodwyd gan y disgyblion:
- pwysau cyfoedion i gael nifer uchel o ‘ffrindiau’, ‘hoffiau’, a sylwadau ar broffiliau ar-lein
- bwlio ar-lein, postio sylwadau niweidiol am gyfoedion, yn enwedig sylwadau am edrychiad
- gwrthrychu rhywiol o ffotograffau o enethod gan fechgyn
- gofyn am, gyrru neu rannu ffotograffau noeth neu rannol-noeth
- ‘catfishing’, ceisiadau ffrind digroeso neu ofynion am ffotograffau noeth gan ddieithriaid neu rai â phroffil cyfryngau cymdeithasol ffug
- agweddau negyddol tuag at gymeriadau benywaidd ac/neu pan mae genethod yn chwarae gemau digidol
Data o Adroddiad Ofsted 2021
Nododd disgyblion oedd wedi ymateb i holiadur OFSTED fod, yn nhrefn eu cyffredinolrwydd, y mathau o ymddygiadau rhywiol niweidiol a ganlyn wedi digwydd “yn aml” neu “weithiau” rhwng pobl o’u hoedran nhw:
- galw-enwau rhywiaethol (92%)
- sibrydion am eu gweithgarwch rhywiol (81%)
- sylwadau dieisiau neu amhriodol o natur rhywiol (80%)
- derbyn lluniau neu fideos nad oeddent eisiau eu gweld (88%)
- bod o dan bwysau i ddarparu delweddau rhywiol o’u hunain (80%)
- cael lluniau neu fideos maent wedi eu rhannu yn cael eu rhannu’n ehangach yn ddiarwybod iddynt ac heb eu cydsyniad (73%)
- ffotograffau neu fideo ohonynt yn cael eu cymryd yn ddiarwybod iddynt ac heb eu cydsyniad (59%)
- cael lluniau neu fideos ohonynt nad oeddent yn gwybod amdanynt yn cael eu rhannu (51%)
- ymosodiad rhywiol o unrhyw fath (79%)
- teimlo dan bwysau i wneud pethau rhywiol nad oeddent eisiau eu gwneud (68%)
- cyffwrdd dieisiau (64%)
Gallwch weld o’r data uchod pa mor bwysig yw hi i addysgu disgyblion am eu hawliau a’u cyfrifoldebau.
Mae angen i ni addysgu disgyblion am eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Rydym yn sôn am eu hawliau ran amlaf – yr hawl i deimlo’n ddiogel, er enghraifft. Ond ydych chi’n sôn am y cyfrifoldebau sy’n cyd-fynd â’u hawliau?
Beth rwy’n ei olygu yw fod gan pob plentyn arall yr hawl i deimlo’n ddiogel, felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod y ffordd rydym yn ymddwyn a’r hyn rydym yn ei ddweud yn barchus i bobl eraill. Dylai’r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda phobl ifanc fod amdan gynyddu eu hyder i reoli sefyllfaoedd os byddant yn codi.