Jane Ashman Logo

Roles and Responsibilities – 9. Crynodeb

Ni ddylech byth deimlo eich bod ar eich pen eich hun wrth ddiogelu, neu nad oes gennych unrhyw un i droi atynt. Felly, sicrhewch bod y cysylltiadau a ganlyn gennych. Cofiwch, mae diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb ac fe ddylai fod yn flaenoriaeth i bawb. P’un a oes gennych bryder am blentyn neu oedolyn yn yr ysgol neu’r tu allan i’r ysgol yn eich cymuned, mae’n rhaid i chi adrodd ar eich pryderon.

Os ydych chi’n teimlo nad yw’r unigolyn rydych wedi adrodd iddynt wedi cymryd unrhyw gamau gweithredu, ewch ag ef ymlaen nes bod camau gweithredu’n digwydd. Mae’n bwysig ein bod ni yno fel llais ac yn hyrwyddo ar ran y plentyn neu’r oedolyn.

Rhestr wirio (ticiwch ‘ia’ neu ‘angen darganfod’)

Ydych chi’n gwybod enw a manylion cyswllt y bobl a ganlyn? Mae hyn yn cynnwys y manylion cyswllt y tu allan i oriau gwaith.

  • PDD
  • Dirprwy PDD
  • Pennaeth
  • Cadeirydd y Llywodraethwyr
  • Llywodraethwr Diogelu Dynodedig
  • Gwasanaethau plant yr awdurdod
  • Gwasanaethau oedolion yr awdurdod
  • Swyddog diogelu dynodedig mewn addysg
  • Swyddog diogelu dynodedig / Swyddog diogelu dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol
  • Llinell gymorth 24 awr yr NSPCC

Ydych chi wedi gweld polisi diogelu a pholisi chwythu’r chwiban eich hysgol? Os nad ydych, gofynnwch am gopi.

Template File: single.php