Roles and Responsibilities – 8. Rolau a Chyfrifoldebau yn yr Awdurdod Lleol
Yn ‘Cadw Dysgwyr yn Ddiogel’, gellir crynhoi rôl yr awdurdod lleol o dan y tri pennawd:
Strategol: Gweithio gyda’r bwrdd diogelu rhanbarthol ac asiantaethau eraill. Monitro cydymffurfiad gan ysgolion gydag arweiniad a pholisïau sy’n dod ag unrhyw ddiffygion i sylw’r corff llywodraethol.
Cefnogaeth: Sicrhau cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer yr holl staff yn y byd addysg, mewn ysgolion ac sy’n gweithio gydag ysgolion. Mae hyn yn cynnwys gwaith aml-asiantaeth ar gyfer staff dynodedig. Darparu polisïau model ar gyfer ysgolion, ynghyd â chyngor ac arweiniad ar y polisïau.
Gweithredol: Gweithredu gweithdrefnau recriwtio diogel a gwneud yr holl wiriadau priodol ar gyfer staff mewn ysgolion a’r rhai hynny sy’n gweithio gydag ysgolion sydd wedi eu lleoli yn yr awdurdod. Mae’r awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddiogelu plant sydd heb le wedi ei neilltuo mewn ysgol neu sydd wedi eu gwahardd o’r ysgol.
O fewn yr adran addysg, bydd ganddynt brif swyddog ar gyfer diogelu mewn addysg wedi’i ddynodi gan yr awdurdod lleol. Mae’n bwysig bod gennych enw a rhifau cyswllt ar gyfer yr unigolyn yma. Fel rydych wedi clywed yn y fideo, mae’r person yma ar gael i staff gysylltu â hwy os oes ganddynt bryderon o ran materion yn yr ysgol neu os nad yw eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifri.
Gwasanaethau Plant ac Oedolion
Gall unrhyw staff sydd â phryderon ynghylch materion diogelu gysylltu â’r gwasanaethau plant neu oedolion. Os oes gan staff bryder sydd wedi codi yn eu cymuned, heb unrhyw gysylltiad â’r ysgol, bydd angen iddynt gysylltu naill ai gyda’r gwasanaethau plant neu’r gwasanaethau oedolion yn uniongyrchol gyda’u pryder.
Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol ochr gefnogol a mandadol. Maent yn gallu cynnig cymorth cynnar, tîm o amgylch y teulu, a gofal a chefnogaeth i deuluoedd. Am wybodaeth bellach, cwblhewch y modiwl Lefel yr Angen.
Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol (SDALl) / Swyddog Dynodedig Diogelu (SDD)
O fewn pob awdurdod lleol, mae yna SDALl sy’n gyfrifol am reoli a monitro honiadau diogelu mewn perthynas ag ymarferydd. Os ydych chi’n teimlo nad yw eich pryderon ynghylch ymarferydd yn cael eu cymryd o ddifri, gallwch gysylltu â’r SDALl yn uniongyrchol.