Jane Ashman Logo

Roles and Responsibilities – 4. KLS

Dyma’r prif bwyntiau a grybwyllir yn Cadw Dysgwyr yn Ddiogel:

Amddiffyn Plant ac Oedolion

“Bydd y person diogelu dynodedig yn gyfrifol am arfer, polisi, gweithdrefnau a  datblygiad proffesiynol y lleoliad addysg mewn perthynas â diogelu ac  amddiffyn plant, gan weithio gydag asiantaethau eraill fel y bo angen. Dylai’r person diogelu dynodedig sicrhau bod polisi diogelu’r lleoliad addysg yn cael ei  ddiweddaru a’i adolygu bob blwyddyn, a chydweithio â’r corff llywodraethu neu’r perchennog mewn perthynas â hyn.  

Y person diogelu dynodedig sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn gweld copïau o’r polisi diogelu plant. Gall hyn helpu i osgoi’r posibilrwydd o  wrthdaro yn nes ymlaen drwy dynnu eu sylw at rôl y lleoliad addysg a’r ffaith y  gellir hysbysu’r awdurdod lleol o bryderon ynglŷn â diogelu. Bydd llawer o  leoliadau addysg yn cynnwys gwybodaeth am hyn mewn cyfarfodydd sefydlu i  rieni/gofalwyr newydd, yn eu prosbectws ac ar eu gwefan. 

Yn ogystal â pholisi diogelu’r lleoliad addysg, mae polisïau eraill yn berthnasol i  ddiogelu ac mae’n bosibl y bydd y person diogelu dynodedig yn rhan o’r broses  o fonitro effeithiolrwydd y polisïau eraill hyn er mwyn sicrhau cysondeb a  chydlyniad o ran y ffordd y mae’r ysgol yn diogelu ei phlant yn effeithiol.”

Mae polisïau’n allweddol i helpu plant, oedolion a staff i ddeall beth mae disgwyl i staff ei wneud a’r hyn y gallent ei wneud. Maent yn helpu i ddarparu strwythur ar gyfer ein ffiniau proffesiynol. Mae’n bwysig bod staff yn darllen y polisïau maent yn cytuno i gadw atynt. Mae rheini angen gwybod pa drefniadau sydd gan ysgolion yn eu lle i ddiogelu eu plentyn a’r hyn i’w wneud os oes ganddynt bryderon.

Atal Amhariad i Ddatblygiad

“Dylai’r person diogelu dynodedig hefyd ystyried sut y gellir ymdrin â materion  sy’n
ymwneud â diogelu yn ehangach a sicrhau y caiff mesurau ataliol eu  mabwysiadu yn y
lleoliad addysg. Bydd y rhan hon o’r rôl yn cynnwys meithrin  cydberthnasau ag asiantaethau
eraill, yn ogystal â sicrhau bod staff a dysgwyr  yn ymwybodol o risgiau a sut i gael gafael ar
gymorth. Bydd hyn yn rhan o ddull gweithredu’r ysgol gyfan (lleoliad cyfan) a’r trefniadau
dysgu drwy’r cwricwlwm  cyfan.”

Rydym wastad wedi gwybod na allwn amddiffyn plant yn gorfforol 24 awr y dydd, bob dydd.
Beth rydym angen ei wneud yw i uwchsgilio plant i fod yn ymwybodol o’r hyn allai fod yn beryglon posibl, a chyda phwy y gallent siarad am eu pryderon. Mae’n rhaid darparu’r cwricwlwm ar lefel sy’n addas i’r oedran a chynnwys pynciau megis meithrin perthynas amhriodol a chyda phwy y gallwn siarad o fewn a’r tu allan i’r ysgol.

Sicrhau eu bod yn Tyfu i Fyny Gyda Gofal Diogel ac Effeithiol

“Dylai’r person diogelu dynodedig feddu ar y sgiliau a’r rhinweddau  angenrheidiol ar gyfer y rôl, a fydd yn cynnwys ffocws cryf ar gyfathrebu â  dysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Gall y rôl hon fod yn un heriol a bydd angen  lefel benodol o arbenigedd, gwybodaeth, adnoddau a chymorth.”

Mae gwrando ar lais y plentyn yn allweddol, o’r pryderon sydd ganddynt i helpu i ddatblygu cwricwlwm sy’n diwallu eu hanghenion.

“Dylai’r person diogelu dynodedig sicrhau bod y lleoliad addysg yn cwblhau’r  Adnodd Archwilio Trefniadau Diogelu, yn Atodiad 3, i gefnogi dull diogelu ar  gyfer y lleoliad addysg cyfan yn ogystal â chynnig meincnod ar gyfer gwella  dulliau a strwythurau diogelu yn barhaus. Dylai’r adnodd archwilio gael ei  adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod myfyrio, dysgu a diweddaru prosesau  yn digwydd yn gyson yn y lleoliad addysg.”

Dylid rhannu’r adnodd archwilio gyda’r llywodraethwyr a’r awdurdod lleol yn flynyddol ac fe ddylai fod yn ddogfen fyw sy’n cael ei diweddaru’n barhaus.

Gweithredu i Gyflawni’r Deilliannau Gorau

“Mae rôl y person diogelu dynodedig yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth i  aelodau eraill o staff, cadw cofnodion, gweithio gydag aelodau o’r teulu a  gofalwyr, atgyfeirio achosion at y gwasanaethau plant a mynd i gyfarfodydd  statudol, yn ogystal â chydgysylltu â’r Bwrdd Diogelu Plant a gweithio gydag  asiantaethau eraill fel y bo angen. Nid rôl y person diogelu dynodedig yw  ymchwilio i honiadau, ond rhaid iddo roi gwybod i’r pennaeth/prifathro am bob pryder ynglŷn â diogelu a godir yn yr ysgol neu’r coleg.

“Rhaid i’r person diogelu  dynodedig fod ar gael i drafod pryderon sy’n ymwneud â diogelu; dylid  ymgynghori â’r person hwnnw, lle y bo’n bosibl, i drafod a ddylid codi pryder  sy’n ymwneud â diogelu â’r awdurdod lleol; a bydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith er mwyn sicrhau bod yr  unigolyn sy’n wynebu risg yn ddiogel rhag cael ei gam-drin. Dylai pob  ymarferydd wybod â phwy y dylid cysylltu yn ei leoliad addysg i gael cyngor a  dylai fwrw ati i drafod ei bryderon hyd yn oed os bydd y pryderon hynny’n  ymddangos yn gymharol ddibwys.  

“Gall y cyfrifoldeb am ddelio ag achosion unigol gael ei ddirprwyo i aelodau eraill  o staff, ond mae’n bwysig bod uwch-aelod o staff yn cymryd cyfrifoldeb  cyffredinol am y maes gwaith hwn. Dylai’r person diogelu dynodedig gael  gwybod yn rheolaidd am hynt a chanlyniad pob achos. Dylid sicrhau bod pob  aelod o staff sy’n ymgymryd â’r cyfrifoldebau hyn wedi cael hyfforddiant llawn  a’i fod yn meddu ar y sgiliau priodol.”

Template File: single.php