Roles and Responsibilities – 2. Staff
Y staff sydd â’r rôl bwysicaf o fewn lleoliad ysgol, oherwydd mai y nhw yw’r unigolion sy’n
cael y cysylltiad mwyaf rheolaidd gyda’r plant. Gallent sylwi ar unrhyw newidiadau mewn
ymddygiad plentyn, eu hymddangosiad, eu defnydd o iaith, ayyb. (gweler y modiwl
Arwyddion a Dangosyddion am fwy o enghreifftiau). Dylai pob aelod staff fod yn ymwybodol
o’r arwyddion o gam-drin, esgeulustod, a mathau eraill o niwed. Mae angen adnabod ac
adrodd ar y rhain cyn gynted â phosibl. Mae cefnogaeth gynnar yn allweddol i ddeilliannau
llwyddiannus i deuluoedd.
Mae gan yr holl staff rôl mewn creu diwylliant o ddiogelu ble mae plant ac oedolion yn
teimlo’n ddiogel i ddatgelu o’i fewn. Mae hyn yn cynnwys popeth a wnawn yn ystod y dydd, o
gyfarch y plentyn neu oedolyn i ddilyn drwodd ar ymrwymiadau a gwirio sut mae unigolyn yn
teimlo.
Mae’n ddyletswydd ar yr holl staff o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014 i adrodd ar bryderon am blant ac oedolion. Dylid adrodd ar bob pryder – boed
hynny ar-lein, ddim ar-lein, yn yr ysgol, y tu allan i’r ysgol – drwy system adrodd yr ysgol ,
boed hon yn system electronig (e.e. My Concern, CPOMs, Bromcom) neu’n system bapur.
Mae’n rhaid cwblhau lefel ofynnol yr hyfforddiant diogelu ar gyfer eu rôl. Os oes ganddynt
gysylltiad rheolaidd gyda phlant, bydd hyn yn cydymffurfio â hyfforddiant Grŵp B y Safonau
Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol.
Atgoffir yr holl staff na allent addo cyfrinachedd yn dilyn datgeliad ac mae angen iddynt fod
yn glir ynghylch beth fydd y camau nesaf (gweler y modiwl Datgelu).
Os yw’r staff yn teimlo nad oes unrhyw gamau gweithredu yn cymryd lle ar ôl adrodd, mae
angen iddynt uwchgyfeirio eu pryderon yn unol â hynny. Fe edrychwn ar sut mae hyn yn
cael ei wneud yn nes ymlaen yn y modiwl.