Jane Ashman Logo

Signs and Indicators – 5. Chwilfrydedd Proffesiynol

  • boeler wedi torri
  • dim sebon, siampŵ a.y.y.b. i ymolchi
  • dim dŵr tap
  • peiriant golchi wedi torri a dim car i fynd i’r golchdy
  • heb gael eu haddysgu sut i ymolchi
  • rhieni ddim yn sicrhau eu bod yn ymolchi’n rheolaidd
  • dim gwres yn y tŷ felly arogl tamp ar ddillad
  • caethiwed i sylweddau gan yr unigolyn neu rieni sy’n golygu nad ydynt hyd yn oed yn meddwl am ymolchi
  • person ddim yn hoffi’r ymdeimlad / teimlad o ymolchi

Gall y rhestr fynd ymlaen. Mae’n debyg y byddech yn gallu dosbarthu’r rhan fwyaf o’r uchod fel esgeuluso posibl.

Ond, gall hylendid gwael hefyd fod yn arwydd o sefyllfaoedd mwy cymhleth:

  • Cam-drin rhywiol – yn osgoi ymolchi’n bwrpasol fel mecanwaith amddiffynnol yn erbyn camdrinwyr
  • Cam-drin emosiynol – yn esgeuluso hunan-ofal oherwydd teimladau o ddiwerth
  • Cam-drin ariannol – diffyg mynediad i gyfleusterau tra’n cael eu hecsbloetio, megis mewn sefyllfaoedd masnachu cyffuriau
  • Cam-drin corfforol – fel yn achos Baby P, ble roedd siocled yn cael ei ddefnyddio i guddio cleisiau

Mae’n bwysig cofio nad oes angen categoreiddio’r mathau o gam-drin, dim ond yn y cynadleddau achos pan yn rhoi plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant. Ym mhob sefyllfa arall, ein rôl ni yw i arsylwi ac i adrodd ar y dangosyddion hyn, beth bynnag yw’r categori y gallent fod yn ei grybwyll.

Template File: single.php