Jane Ashman Logo

Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 2. Deall Ymddygiad Rhywiol Niweidiol

Diffiniadau – Beth yw HSB?

Gallai’r ymddygiadau rhywiol a fynegir gan blant a phobl ifanc o dan 18 oed, sydd yn amhriodol o ran eu datblygiad, fod yn niweidiol iddynt hwy neu i eraill, neu fod yn gamdriniol tuag blentyn arall, person ifanc neu oedolyn. Mae’r diffiniad hwn o HSB yn cynnwys ymddygiadau cyswllt a di-gyswllt (meithrin perthynas, arddangosiaeth, llygadu a negeseuo rhywiol, neu recordio delweddau o weithredoedd rhywiol drwy ffonau clyfar neu apiau cyfryngau cymdeithasol).

Pam mae deall HSB yn bwysig

Fel soniais i yn y fideo, cynhaliodd adroddiad “Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon” Estyn o fis Rhagfyr 2021 adolygiad i brofiadau o aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Dylai’r ystadegau o’u holiadur i ddisgyblion wneud i ni i gyd gymryd sylw:

Dyma rai o’r ystadegau a gofnodwyd yn yr ymatebion i’r holiadur disgyblion:

  • Dywedodd 46% o’r disgyblion fod ganddynt brofiad personol o rhyw fath o aflonyddu rhywiol
  • 76% yn adrodd eu bod wedi gweld eraill yn profi hyn
  • Disgyblion oedd ddim yn dewis rhyw neu’n uniaethu yn wrywaidd neu fenywaidd yn adrodd lefelau uwch o aflonyddu rhywiol gyda 64% â phrofiad personol ohono.
  • Llawer o ddisgyblion benywaidd (86%) yn adrodd am brofiad personol o aflonyddu cyfoedion ar gyfoedion neu o weld eraill yn ei brofi. Mae hyn o’i gymharu gyda chyfran is o ddisgyblion gwrywaidd (74%)
  • Dwywaith cymaint o enethod (61%) yn adrodd bod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol na bechgyn (29%)
  • Profiad disgyblion o aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion yn cynyddu wrth iddynt fynd yn hŷn. Cyfran uwch o ddisgyblion hŷn yn adrodd eu bod wedi gweld eraill yn profi aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion.
  • Bron pob disgybl Blwyddyn 13 (95%) yn adrodd eu bod wedi gweld yr aflonyddu yma, gyda:
    • 72% yn adrodd eu bod wedi ei weld yn yr ysgol
    • 75% y tu allan i’r ysgol
    • 75% ar-lein
  • Dim ond 20% o ddisgyblion Blwyddyn 13 adroddodd nad oeddent wedi gweld na phrofi aflonyddu rhywiol cyfoedion ar gyfoedion ar-lein.
  • Pan ofynnwyd iddynt ym mhle roedd yr aflonyddu wedi digwydd, rhoddwyd yr ymatebion a ganlyn:

Felly, fel staff sy’n gweithio mewn ysgol, mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r hyn mae ein disgyblion yn ei brofi ac i fod yn barod i herio unrhyw beth amhriodol rydym yn ei weld neu glywed. Mae angen i ni hefyd addysgu disgyblion am yr hyn sy’n amhriodol, oherwydd bod llawer yn meddwl ei fod yn ymddygiad normal neu’n ymddygiad a ddisgwylir.  

Nid yw hon yn broblem yng Nghymru neu’r DU yn unig

Nid yw HSB yn rhywbeth newydd, nac yn berthnasol i Gymru neu’r DU yn unig.

Dyma rai ffigyrau o astudiaeth 2020 gan Gewirtz-Meydan a Finkelhor o sampl gynrychiadol o rai 0 i 17 mlwydd oed yn Unol Daleithiau America. Gwnaethant ddarganfod bod plant a phobl ifanc eraill yn gyfrifol am:

  • 76.7% o droseddau cam-drin rhywiol ac ymosodiadau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn bechgyn
  • 70.1% o droseddau cam-drin ac ymosodiadau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn genethod

Y Gefnogaeth y mae Pobl Ifanc yn Ceisio Amdani

Yn 2022/23, darparodd Childline 602 o sesiynau cwnsela am gam-drin rhywiol plentyn ar blentyn.

  • Yn 92% o’r rhain, roedd yr union berthynas rhwng y bobl ifanc yn hysbys:
  • Mewn 47 o’r sesiynau cwnsela hyn (9%), dywedodd y bobl ifanc eu bod wedi cael eu cam-drin gan eu partner presennol
  • Mewn 64 sesiwn (12%) dywedasant eu bod wedi cael eu cam-drin gan gyn-bartner
  • Mewn 128 sesiwn (23%), dywedasant wrthym am gael eu cam-drin gan ffrind
  • Mewn 313 sesiwn (57%) cofnodwyd y berthynas fel ‘arall’

Mae’r ffigyrau hyn yn ein hatgoffa bod ymddygiad rhywiol niweidiol ymhlith pobl ifanc yn digwydd yn ein hysgolion a’n cymunedau. Fel addysgwyr, mae gennym y cyfrifoldeb i ddeall y realiti yma ac i ymateb yn briodol pan rydym yn gweld ymddygiad o’r fath neu pan ddaw pobl ifanc atom am help.

Template File: single.php