Jane Ashman Logo

Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 1. Cyflwyniad

Mae Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Arweiniad Llywodraeth Cymru ar ddiogelu mewn ysgolion) yn datgan:

5.17 Dylai pob aelod o staff sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg ddeall ac adnabod risgiau cam-drin ac ymddygiad rhywiol niweidiol rhwng cyfoedion.

Deilliannau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl hwn byddwch yn:

  1. Gwybod y pum dosbarthiad ymddygiad rhywiol (model Simon Hackett) a ystyrir fel Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (HSB)
  2. Deall beth allai effeithio ar ymddygiad rhywioledig plentyn
  3. Gwybod sut a phryd i adrodd ar bryderon am HSB

Nodyn am y derminoleg

Yng Nghymru, defnyddiwn y derminoleg “cyfoedion ar gyfoedion”, ond rwy’n gweld bod hyn yn gallu arwain at gamddealltwriaeth ynghylch oedrannau a safleoedd cymdeithasol cymharol y bobl ifanc dan sylw.

Mae’n well gen i feddwl amdano fel cam-drin “plentyn ar blentyn”, sef yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfennaeth Saesneg. Mae’n ei fframio’n ehangach ac yn ein hatgoffa y gall digwyddiadau gynnwys:

  • Plant o wahanol oedrannau
  • Rhyngweithiadau ar-lein
  • Plant sydd erioed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb
Fideo

Daeth HSB, sef Ymddygiad Rhywiol Niweidiol, i’r amlwg gyda’r wefan ‘Everyone’s Invited’ a lansiwyd ym mis Mehefin 2020, ble roedd pobl yn postio yno am ddigwyddiadau oedd wedi digwydd iddynt hwy, cam-drin o fewn lleoliadau ysgol, gan ddisgyblion eraill yn yr ysgol. Roedd esiamplau hefyd y tu allan i’r ysgol. Arweiniodd hynny i adolygiadau gan OFSTED yn Lloegr ac, yn ddiweddarach, gan ESTYN yng Nghymru. Ac fe siaradwn am y rhain wrth i ni fynd drwy’r modiwl, a dysgu beth rydym yn ei ddysgu ohonynt.

Pan rydym yn edrych ar HSB, mae HSB yn eistedd o fewn ffrâm ehangach o’r hyn a elwir yn Nghymru’n ‘gam-drin cyfoedion ar gyfoedion’. Nawr, yn bersonol, mae gen i broblem gyda’r derminoleg a ddefnyddir yng Nghymru oherwydd, i mi, mae ‘cyfoedion ar gyfoedion’ yn tueddu i awgrymu bod yr unigolion naill ai o oedran tebyg neu o safle tebyg mewn cymdeithas. Ac fe welwn hynny pan edrychwn ar y diffiniadau’n dilyn y fideo hwn. Yr un yn Lloegr yw ‘plentyn ar blentyn’. Dechreuasant gyda ‘chyfoedion ar gyfoedion’ ond ei newid i ‘blentyn ar blentyn’.

Nawr, os ydych chi wedi gwneud y modiwl ‘Deddfau ac Arweiniad’, byddwch yn gwybod mai’r diffiniad o blentyn yw unrhyw un o dan 18 oed, ac rwy’n meddwl bod hyn yn ei gwmpasu’n llawer gwell na ‘chyfoedion ar gyfoedion’. Oherwydd mae’n cael gwared o’n ffrwynau, yn agor ein llygaid, y gallai hyn gynnwys pobl oedd erioed wedi adnabod ei gilydd cyn hynny, efallai eu bod o oedrannau hollol wahanol, ddim yn byw yn yr un ardal. Gallai fod yn rhywbeth sy’n digwydd ar-lein, felly dyma pam nad ydynt erioed wedi eu cyfarfod. Mae’n agor allan yn llawer ehangach, sy’n llawer gwell.

Roedd ‘HSB’, fel dywedais i, yn elfen ohono, oherwydd mae ‘plentyn ar blentyn’ yn cynnwys pethau fel bwlio corfforol, gallai cam-drin emosiynol fod yno, ond yr ‘HSB’ yw ble mae elfen rhywioledig i’r ymddygiad. Ac eto, yn ystod y modiwl, fe edrychwn ar hyn. Oherwydd nid yw pob ymddygiad rhywiol gan blentyn yn niweidiol. Ac eto fe ddechreuwn edrych ar hynny ac fe ddechreuwn ei ddadansoddi gan ddefnyddio model Simon Hackett sydd â phum adran iddo ac hefyd cymysgedd o oleuadau traffig Brook a’r Lucy Faithfull Foundation, ble maent yn defnyddio sylfaen model Simon Hackett ond yn ei roi i mewn i dair ardal. Yr ymddygiadau coch, oren a gwyrdd hynny, ac fe edrychwn ar y rhain wrth i ni fynd drwyddi.

Os edrychaf yn ôl i’r achosion cyntaf i mi ddelio â hwy ac efallai y byddech yn meddwl yn syth, ‘fyddai hyn byth yn digwydd i blant ieuengach’, ond roedd y ddau achos cyntaf i mi ddelio â hwy yn cynnwys plant tair mlwydd oed. Nawr, beth oedd wedi digwydd yn y rheiny oedd fod y plentyn wedi gwneud beth oedd wedi digwydd iddynt hwy. Mae plant yn gweld, mae plant yn gwneud. Nid oedd wedi ei wneud ar gyfer pleser rhywiol, roeddent wedi ei wneud am eu bod yn meddwl, yn eu meddwl nhw, ei fod yn normal oherwydd mai hynny oedd yn cael ei wneud iddynt hwy.

Felly mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn am y rhesymu y tu ôl i pam mae pobl yn ei wneud. A dyma pam mae’n bwysig ein bod ni’n adrodd am bopeth i’n PDD ond hefyd nad ydym yn neidio i’r casgliad yn syth fod hyn yn niweidiol. Fel dywedais i, mae hynny i’r PDD i wneud ychydig mwy o ymchwil, ac i ddarganfod mwy o’r cefndir ar gyfer hynny.

Fel dywedais i, ia, ‘Everyone’s Invited’, ym Mehefin 2020. Ond, cyn hynny, rwy’n cofio gweithio o fewn y bwrdd diogelu plant lleol yng Ngwynedd a Môn ac roedd y bwrdd yn pryderu bod hyn yn broblem yn yr ardaloedd hyn yn ôl yn 2012. Ac roeddem yn hyfforddi ein staff yn yr hyn oedd yn ‘Aim 2’, sef model gan Simon Hackett, ble rydym yn asesu, yn ymyrryd, ac yn symud ymlaen gyda hynny.

Felly nid yw’n faes newydd, ond fe ddaeth i’r amlwg yn 2020 oherwydd y wefan. Eto, pan rydym yn edrych ar ‘blentyn ar blentyn’, pan edrychwch ar y data, megis 2024, o’r achosion o adroddiadau i’r heddlu o gam-drin rhywiol a chamfanteisio, roedd 52% ohonynt yn ‘blentyn ar blentyn’. Felly pan feddyliwn ni am droseddwyr, mae’n rhaid i ni ystyried y gallent fod yn blant. Ond, eto, mae’n rhaid i ni edrych ar lawer o’r rhesymeg y tu ôl i hynny.

Mae’r newid mewn technoleg yn sicr wedi cyflymu hyn. Yn 2022, dengys y data nawr fod gan 17% o blant 3 i 4 oed (o’r rhai a gwestiynwyd fel rhan o’r arolwg) eu ffôn symudol eu hunain. O’r rhai 8 i 11 oed, nawr yn y gorffennol roedd plant yn arfer cael ffôn symudol wrth fynd i’r uwchradd pan fyddai rhieni’n rhoi ffôn iddynt am eu bod yn mynd ar y bws, yn cerdded i’r ysgol uwchradd. Erbyn hyn mae gan 60% o blant ffôn symudol cyn cyrraedd yr ysgol uwchradd.

Felly rwy’n meddwl ei fod yn bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn maent yn ei wneud arnynt, sut maent yn eu defnyddio, y pwysau cyfoedion ar gyfoedion sydd arnynt – gofyn iddynt wneud heriau penodol. Edrychwch ar y fideos Tik-Tok, y rhain i gyd, mae’n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny. Ond mae’n sicr wedi ehangu’r cyfleoedd, fel dywedais i, o HSB yn digwydd ac eto mae ychydig o, ‘beth mae plant yn ei feddwl sy’n normal rŵan?’

Mae mynediad i bornograffi ar gael. Gobeithio, o fis Gorffennaf 2025, y bydd y gwiriadau oedran hynny wedi dod i mewn ac yn cael eu monitro, felly bydd hynny’n lleihau’r mynediad. Ond, ar hyn o bryd, dyma ble mae llawer ohonynt yn cael eu haddysg rhyw. Felly, fel dywedais i, fe edrychwn ar yr hyn sy’n cyfri fel ymddygiad rhywiol niweidiol, beth sy’n ymddygiad datblygiadol normal, ac yna fe edrychwn ar rai o’r senarios yn y fideo nesaf.

Template File: single.php